Prosiect "galluogi" yw hwn er mwyn i Gymdeithas Neuadd Bentref Reynoldston ddarparu cyfleusterau a chyfarpar allweddol fel y gellir sefydlu cynllun chwarae cyn ysgol yn Neuadd Bentref Reynoldston. Caiff y cynllun chwarae ei reoli a'i drefnu gan y rheini sy'n mynychu'r cynllun chwarae a bydd y cyfleusterau ar gael i rieni, neiniau a theidiau a phlant o lawer o ardaloedd yng Ngŵyr. Mae'r prosiect yn adlewyrchu angen clir am y fath grŵp yn yr ardal (nid oes un yn bodoli ar hyn o bryd). Fel grwpiau eraill sy'n defnyddio Neuadd Bentref Reynoldston, bydd y cynllun chwarae a'i drefnwyr yn annibynnol ar y Neuadd.
Bydd hyfforddwyr lleol yn mynd o dro i dro i ddarparu cerddoriaeth, ymarfer corff, a chefnogaeth o ran deiet ac anghenion arbennig. Yn y Neuadd ceir dwy ystafell fach a lle i grwpiau bach neu gyfarfodydd preifat.
Nodau ac amcanion allweddol:
- Sefydlu grŵp cynllun chwarae i ddarparu ar gyfer plant oed cyn ysgol, gan gynnwys cyfleusterau i rieni â babanod.
- Darparu chwarae a chyfleusterau sy'n gysylltiedig â chwarae
- Galluogi rhieni a neiniau a theidiau i gymdeithasu, trafod meysydd o ddiddordeb cyffredin a sefydlu cyfeillgarwch parhaus.
- Defnyddio arbenigedd lleol i gynghori aelodau ar bynciau sy'n ymwneud â phlant ifanc.
- Helpu i liniaru unigedd gwledig
- Darparu cyfleuster pwysig i'r rheini sy'n cyrraedd ardal De Gŵyr, gan ddarparu mynediad di-oed at grwpiau cyfoedion
- Cynnwys pobl eraill yn y gymuned a fydd yn rhannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd â'r grŵp.
- Datblygu siopau cyfnewid er mwyn cyfnewid dillad etc.
- Ar ôl chwe mis, bydd gan y cynllun ei strwythur sefydliadol ei hun a bydd yn hunan-ariannu. Bydd y grŵp yn ariannu pryniadau yn y dyfodol, yn cynnal gweithgareddau codi arian pan fo angen, yn cyllido unrhyw hyfforddwyr neu drefnwyr gweithgareddau ac yn talu am gost rhentu/gwresogi'r neuadd.
Mewn perthynas â strategaeth cyflwyno Lleol RhDG Abertawe:
Nod Strategol 1:
- Gwella lles a chydnerthedd ecosystemau drwy gynnal a gwella gwerth adnoddau naturiol a diwylliannol
Amcan 1:
- Datblygu mentrau sy'n cyflwyno buddion lles mesuradwy Menter gymunedol, wedi'i harwain a'i threfnu gan aelodau'r cynllun chwarae gyda chefnogaeth gan eraill yn y gymuned. Bydd gan y cynllun chwarae rôl allweddol wrth leihau unigedd yn y gymuned wledig hon, gan gynorthwyo lles meddyliol.
- Bydd yn ganolbwynt i blant, rheini a neiniau a theidiau, gan ddarparu cysylltiadau cymdeithasol, buddion meddyliol a chorfforol, cyfle i gyfnewid cyngor a rhoi help ymarferol drwy gydweithrediad.
- Bydd y cynllun chwarae'n cydweddu â'r polisi a sefydlwyd gan ymddiriedolwyr y neuadd sef darparu cyfleusterau rhagorol i grwpiau sy'n cynnig gweithgareddau iechyd a lles.
Nod Strategol 2:
- Cryfhau hunan-gynaladwyedd yr economi leol a chefnogi cymunedau gweithgar, cadarn a chysylltiedig
Amcan 2:
- Gwneud y defnydd gorau o'r economi leol a'i gwneud yn fwy cynaliadwy drwy ddatblygu cadwyni cyflenwi llai rhwng cwsmeriaid, cynhyrchwyr a chyflenwyr
- Hwn fydd yr unig gyfleuster a fydd ar gael yn y de ac ar gyfer llawer o ogledd Gŵyr, a bydd felly'n darparu cyfleuster i lawer o gymunedau yn yr ardal.
- Bydd y grŵp chwarae, a leolir mewn man canolog yn Reynoldston, yn lleihau teithio gormodol. Ar hyn o bryd, mae'r cynllun chwarae agosaf rhyw wyth milltir i ffwrdd yn Pennard, felly mae ganddo oblygiadau cost, amser ac amgylcheddol.
- Bydd y cynllun chwarae'n llogi hyfforddwyr mewn meysydd fel iechyd a ffitrwydd, gemau, dawns, diogelwch yn y cartref a phethau cysylltiedig. Byddai'r rhan fwyaf o'r hyfforddwyr hyn yn dod o'r ardal leol.
Amcan 3:
- Cynyddu cadernid cymunedol drwy fentrau, datblygu sgiliau a hyrwyddo
- I'r rheini sy'n arwain ac yn trefnu'r cynllun chwarae, mae'n bosib mai'r rhain fydd y cyfrifoldebau cymunedol cyntaf i rai ymgymryd â nhw. Bydd y Neuadd yn darparu cyngor ar faterion cyfreithiol, ariannol a gweithrediadol, gan ddefnyddio arbenigedd a phrofiad ei hymddiriedolwyr a'i Grŵp Gweithrediadau.
Amcan 4:
- Cynyddu effeithlonrwydd adnoddau - lleihau, ailddefnyddio, ailddychmygu, ailgylchu gwastraff
- Anogir trefnwyr y cynllun chwarae i fod yn ymwybodol iawn o anghenion amgylcheddol. Cefnogir hyn gan y Neuadd sydd wedi buddsoddi mewn gwresogi, goleuadau, dŵr a thoiledau sy'n "llesol i'r amgylchedd"
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£2250.00
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Abertawe
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 1
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Victoria Thomson
- Rhif Ffôn:
-
01792636992
- Cyfeiriad e-bost:
- rdpleader@swansea.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts