Maer cynnig prosiect hwn yn beilot 2 flynedd gydar nod o ddatblygu Gwasanaeth Cefnogaeth Cyfranddaliadau Cymunedol ar gyfer Sir Benfro. Maer gweithgaredd hwn wedi ei nodi yn y tabl rhesymeg ymyrraeth LEADER ar ddogfen LDS. Byddair prosiect peilot yn cyflogi swyddog Datblygu Cyfranddaliadau Cymunedol i ffocysu ac adrodd ar y gweithgareddau allweddol canlynol:
- Nodi cymunedau sydd eisiau datblygu cynllun cydweithredol cynnig cyfranddaliadau budd cymunedol i sefydlu Mentrau Cymdeithasol newydd gyda tharged o 6 menter gydweithredol gymunedol newydd yn gweithredu o fewn 24 mis.
- Cefnogi cymunedau gyda chynigion cyfranddaliadau i brynu tir ac adeiladau i gadw gwasanaethau presennol a datblygu rhai newydd.
- Darparu dogfennau templed i gymunedau ddatblygu eu cyfansoddiadau, cynlluniau busnes a dogfennau cynnig cyfranddaliadau yn effeithiol.
- Cefnogir mentrau cydweithredol cymunedol i gynnig ysgogiadau Treth HMRC i fuddsoddwyr lleol i gael ysgogiad treth 30% ar gynlluniau megis y Cynllun Buddsoddiad Menter ar Gostyngiad Treth Buddsoddiad Cymdeithasol.
- Trefnu digwyddiad hyfforddiant ar gyfer aelodaur bwrdd a gwirfoddolwyr cydweithredol cymunedol.
- Darparu cyfleoedd cynllunio olyniaeth ar gyfer perchnogion busnes hn i sefydlu cyfleoedd cyfranddaliadau cydweithredol yn hytrach nag ymddeol a chau eu busnesau proffidiol.
- Sefydlu Grp Rhwydwaith Cyfranddaliadau Cymunedol ar gyfer Sir Benfro i rannu arfer gorau. Yn ystod y 12 mis diwethaf, cafwyd ymwybyddiaeth gynyddol o gyfleoedd cynnig cyfranddaliadau gyda phrosiect ledled Cymru dan arweiniad Canolfan Gydweithredol Cymru. Yn Sir Benfro, rydym wedi gweld mentrai megid yr un ar gyfer Tafarn Sinc yn Rosebush a gafodd sylw arwyddocaol yn y wasg.
"
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£59360.00
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Sir Benfro
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 2
- Mesur:
-
19.2
- Pembrokeshire Community Cooperative Share Offers Scheme
Cyswllt:
- Enw:
- Gordon Barry
- Rhif Ffôn:
-
01834 860965
- Cyfeiriad e-bost:
- information@planed.org.uk
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- http://www.planed.org.uk/
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts