Cynllun Gweithredu Cymunedol Cwm Garw

Mae Cwm Garw yn gwm serth a chul heb ffordd drwodd i fynd ag ymwelwyr ymlaen i leoliad arall, felly yn realistig nid yw'n mynd i ddenu datblygiadau tai newydd na llawer o ddiwydiant i'r cwm. Fodd bynnag, mae'n drysor cudd, yn ardal o harddwch naturiol ac mae'n amlwg bod angen denu mwy o dwristiaeth i'r ardal. 

Mae'r Cyngor Cymuned yn prydlesu Parc Calon Lân gan yr awdurdod lleol ac mae'n pontio wardiau Blaengarw a Phontycymer ym mhen ucha'r cwm. Mae'n cynnwys Canolfan Ymwelwyr gyda thoiledau, maes parcio, dau lwybr beicio mynydd, llwybr cymunedol ar gyfer cerdded neu feicio ac sy'n mynd yr holl ffordd i Barc Bryngarw ym Mrynmenyn, dau lyn, mannau picnic a llu o lwybrau cerdded.

Nid oedd gan y Cyngor Cymuned yr arbenigedd na'r adnoddau i gynnal yr ymgyngoriadau gofynnol i'w alluogi i wella'r atyniadau sydd eisoes yn yr ardal a gwneud Cwm Garw Uchaf yn gyrchfan i dwristiaid yn ogystal ag adnodd naturiol rhagorol i'r gymuned leol. 

Roedd gan y Cyngor Cymuned lawer o syniadau ar yr hyn y gellid ei wneud, ond roedd angen cymorth proffesiynol arno i sefydlu a chydlynu ymgynghoriad llawn er mwyn cael dealltwriaeth briodol o'r hyn y gellir ei gyflawni, sut y gellir ei gyflawni a galluogi gweledigaeth lawnach ar gyfer dyfodol y cwm - i'w wella nid yn unig i'r trigolion ond hefyd y rhai sy'n gweithio yn y cwm ac yn ymweld â'r lle.

Cynhaliodd y prosiect waith ymchwil bwrdd gwaith, ymweliadau safle a phroses ymgynghori â'r gymuned i lunio cynllun pum mlynedd ar gyfer y Cyngor Cymuned, fel bod trigolion a thwristiaid fel ei gilydd yn elwa i'r eithaf ar ran uchaf Cwm Garw at ddibenion hamdden, twristiaeth a threftadaeth.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£5,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Pen-y-bont ar Ogwr
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Sandra Lopes
Rhif Ffôn:
01656815080
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.garwvalleycc.co.uk
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts