Cynlluniau Twf Economaidd Trefi Marchnad Gwledig

Fel rhan o'i Strategaeth Datblygu Lleol, mae Grŵp Gweithredu Lleol Sir Gâr yn canolbwyntio ar gefnogi datblygiad a thwf ei threfi marchnad gwledig strategol a, thrwy wneud hynny, yn nodi a chymryd camau i fynd i'r afael â heriau allweddol sy'n llesteirio cyflogaeth a ffyniant.  

Er mwyn datblygu'r gwaith hwn, mae'r Grŵp Gweithredu Lleol wedi cytuno i gefnogi amryw o gynlluniau twf, gyda phob un o'r rhain yn cael ei sbarduno gan y busnesau a'r cymunedau yn y trefi marchnad hyn.

Bydd y cynlluniau unigol yn darparu gweledigaeth strategol tymor hir ar gyfer pob un o'r trefi marchnad gwledig, gan nodi cynigion manwl i sicrhau twf economaidd gan arwain at greu cyflogaeth, perfformiad economaidd cryfach a threfi marchnad cynaliadwy yn y pen draw.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£91,000
Ffynhonnell cyllid:
Y gronfa datblygu cymunedau gwledig
Ardal:
Sir Gaerfyrddin
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Chris Moore
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts