Cynnal tirwedd Caerffili

Mae’r prosiect hwn yw canlbwyntio ar ddarn eang o dir i’r de o Gaerffili sy’n ffinio â Chaerdydd a Chasnewydd. Mae’n cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd a rhywogaethau a safleoedd dynodedig, a chaiff ei ddefnyddio hefyd at ddibenion hamdden a phleser. Mae nifer o gymunedau’n amgylchynu’r tir gan gynnwys rhai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng nghymoedd y De. Caiff y prosiect ei ddatblygu ar y cyd gan Bartneriaeth Tirwedd Caerffili a fydd yn efelychu model y byrddau gwasanaeth lleol, ac yn cynnwys amrywiaeth eang o gyrff fel Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, yr heddlu, Coed Cadw, Cadwch Gymru’n Daclus a Hyrwyddwyr Cymunedol, ymhlith eraill.

Un o’r prif flaenoriaethau fydd gwella amrywiaeth, mynediad a chyfleusterau hamdden awyr agored heb niweidio neu fygwth cynefinoedd a rhywogaethau yn yr ardal. Bydd hyn hefyd yn cynnig cymorth ariannol i gyflogi arbenigwr ymarfer corff y GIG i weithio gyda rhai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng nghyffiniau Caerffili a chreu cyfleoedd i annog pobl i gerdded mwy. Bydd pobl sydd â chyflyrau iechyd llai difrifol hefyd yn cael hannog i ddefnyddio’r safleoedd awyr agored er lles eu hiechyd.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£295,987
Ffynhonnell cyllid:
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
Ardal:
Caerffili
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Owen Ashton
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts