Cynigir buddsoddi yn y canlynol;
• Sied newydd ar gyfer cyfran gwartheg sych y fuches odro.
• Storfa dail wedi'i gorchuddio.
• Cyfarpar effeithlonrwydd ynni yn llaethdy'r fferm.
• System gynaeafu dŵr glaw.
Bydd y cynnig yn darparu'r manteision canlynol;
• Gwella cysur a lles gwartheg sych, a rheoli'r cyfnod cyn lloea.
• Gwella rheoli maetholion y busnes, lleihau trwytholchi maetholion.
• Lleihau defnydd ynni'r busnes a'r galw ar adnoddau dŵr.
• Sicrhau arbedion costau h.y. llai o lafur, defnydd ynni ac ati.
• Cynyddu allbwn a pherfformiad y fuches heb gynyddu nifer y stoc.
• Gwella effeithlonrwydd cyffredinol y busnes.
• Lleihau allyriadau carbon.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£167,802
- Ffynhonnell cyllid:
-
Grant Cynhyrchu Cynaliadwy
- Ardal:
-
Sir Gaerfyrddin
- Cwblhau:
-
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts