Cysylltiadau Cymunedau Tir Comin Uwch Gwyrfai

Mae’r prosiect hwn yn gweithredu yn ardal Tir Comin Uwch Gwyrfai - ardal ddaearyddol amrywiol sy’n ymestyn o gyrion tref i gopa anghysbell Mynydd Mawr. Mae’n cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd, gyda rhostiroedd eang a glaswelltir asid, llyn, gwlypdiroedd corsiog a rhai mignenni yn ogystal â chwareli llechi segur a rhai safleoedd o ddiddordeb archeolegol.

Nod y prosiect arloesol hwn yw trawsnewid Tir Comin Uwch Gwyrfai drwy ei ailgysylltu â chymunedau lleol. Bydd yn galluogi porwyr i gydweithio’n well i bori’r Tir Comin a hynny er mwyn hybu bioamrywiaeth ac er mwyn creu buddion i’r economi gwledig lleol. Bydd y gweithgareddau ymarferol yn canolbwyntio ar leihau peryglon tân yn yr ardal drwy gael gwared ar brysg a’i reoli; bydd hefyd yn gwella trefniadau rheoli da byw a threfniadau pori i helpu i wella cynefinoedd, cyflwr y pridd ac ansawdd y dŵr.

Nod y prosiect yw dwyn grwpiau cymunedol lleol, plant ysgol a chynghorau cymuned ynghyd i benderfynu ar hyn y maent am ei weld yn digwydd i wella mynediad a’r gallu i ddefnyddio’r tir comin at ddibenion hamdden, i greu cyfleoedd addysgol, safleoedd i’w mwynhau a gweithgareddau corfforol ac i helpu i greu ymdeimlad o le.   

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£418,010
Ffynhonnell cyllid:
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
Ardal:
Gwynedd
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Dafydd Owen
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts