#cysylltiadaudiwylliannol

Mae enwau llefydd Cymru yn adrodd stori

Cymerwch enw Merthyr Tudful, er enghraifft – tua’r flwyddyn 480 Oed Crist, cafodd Tudful, merch Brychan, Brenin Brycheiniog, ei merthyru yn ystod ymosodiad paganaidd. Cafodd y fan lle lladdwyd hi ei galw’n Merthyr Tudful er cof amdani. Ar y llaw arall, mae enw Hirwaun – sy’n golygu darn hir o dir gwlyb – yn dweud rhywbeth wrthon ni am ddaearyddiaeth a thirwedd yr ardal.

Am sawl rheswm, mae rhai enwau llefydd traddodiadol yn cael eu colli. Mae’n bosib bod twf y cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau ar-lein ar gyfer olrhain gweithgareddau awyr agored yn ychwanegu at y duedd yma ac yn golygu risg bellach i enwau llefydd Cymraeg a thraddodiadol.

Mewn ymdrech i ddeall hyn ymhellach, nod y prosiect Enwau Llefydd a Thirweddau Diwylliannol yw nodi enwau llefydd a thirweddau sydd o bwys i drigolion, busnesau a phobl sy’n ymweld â bwrdeistrefi sirol Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£41,216
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Merthyr Tudful
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Harri Evans
Rhif Ffôn:
01685 725463
Email project contact
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts