Cysylltu Cymunedau â Natur: Mynydd Helygain

Mae prosiect Mynydd Helygain yn canolbwyntio ar 2,000 erw o dir comin, sydd wedi’i ddynodi oherwydd yr amrywiaeth eang o gynefinoedd sydd i’w cael ar y tir. Mae pum cymuned yn rhannu’r tir comin ac mae ei adnoddau naturiol yn allweddol i ffyniant y cymunedau hyn yn y dyfodol. Y partneriaid sy’n rhan o’r prosiect yw’r Awdurdodau Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, y Gwasanaethau Tân ac Achub, chwarel leol a thirfeddianwyr.   

Nod y prosiect cydweithredol hwn yw gwella gwerth economaidd y tir comin ac ysgogi busnesau fferm. Mae’r tir comin yn cael ei bori ers canrifoedd ond mae’r arfer hwn wedi dirywio’n gyson dros y blynyddoedd. Os caiff ei reoli’n iawn, mae trefniadau pori’n bwysig iawn i’r modd y caiff ein cynefinoedd lled naturiol eu rheoli, gan ei fod yn caniatáu i rywogaethau brodorol dyfu ac yn creu amodau gwell ar gyfer adar sy’n nythu, ymlusgiaid a meithrinfeydd hadau. Un o brif amcanion y prosiect yw helpu i wella ansawdd y tir comin ac ennyn diddordeb porwyr, a cheisio annog cenhedlaeth iau i fod yn rhan o’r traddodiad pori.

Drwy gyfeirio at yr heriau sy’n wynebu’r tir comin, mae’r prosiect yn ceisio creu tir comin da, a gaiff ei reoli’n effeithiol, gan greu cyfleoedd hamdden i’r cymunedau cyfagos, meithrin sgiliau i helpu i gyfoethogi eu bywydau, a chreu  cymunedau iachach a chryfach.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£285,000
Ffynhonnell cyllid:
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
Ardal:
Sir y Fflint
Cwblhau:
Connecting Communities with Nature: Halkyn Mountain

Cyswllt:

Enw:
Saul Burton
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts