Prynu trên tir 50 sedd. Mae'r safle wedi'i rannu dros 2 ardal wedi'u gwahanu gan lwybr ¼ milltir o hyd ar i fyny ac mae ardal Pontsenni yn adnabyddus fel un o'r ardaloedd gwlypaf yng Nghymru, sef un o'r cwynion mwyaf cyffredin a geir.
Felly maent yn awyddus i wella'r profiad i ymwelwyr drwy brynu trên tir er mwyn cysylltu'r ddwy ran o'r safle, gan gynnig trafnidiaeth thema gyfforddus y gellir ei defnyddio ym mhob tywydd i deithio rhwng y safleoedd ac o'r maes parcio.
Mae'r cwmni hefyd yn methu â denu nifer fawr o'r gwesteion i'w ardaloedd manwerthu sy'n rhan o'r prif atyniad ym mhen uchaf y parc, oherwydd y pellter rhwng y ddau safle. Y trên tir a ffefrir yw'r locomotif Dotto P90 â dau gerbyd a fydd yn cludo tua 50 o bobl ar yr un pryd.
Bydd y trên tir hefyd yn cynnig agwedd ychwanegol llawn hwyl i deuluoedd.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£50,000
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)
- Ardal:
-
Abertawe
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- James Price
- Cyfeiriad e-bost:
- james@showcaves.co.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts