Darganfod pysgota

Bydd y prosiect yn casglu amrywiaeth eang o gynnwys gan awduron pysgota uchel eu parch am y mathau amrywiol o bysgota sydd ar gael yng Nghymru a'i gyhoeddi ar wefan ynghyd ag adnodd mapio er mwyn i ddefnyddwyr ddod o hyd i wybodaeth am ble a sut i bysgota ar yr afonydd, llynnoedd, camlesi, traethau a chychod siarter niferus yng Nghymru.

Bydd hyn hefyd yn hyrwyddo cysylltiadau â menter Ffordd Cymru drwy dynnu sylw at y nifer o gyfleoedd pysgota sydd ger y llwybrau hyn. Yna cynhelir ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo'r wefan gyda fideos pysgota yng Nghymru yn cael eu ffilmio yn ystod gwanwyn a haf 2019.

Bydd pysgotwyr hefyd yn cael gwybodaeth am sut i bysgota yn gynaliadwy ac yn gyfrifol gan yr Ymddiriedolaeth Bysgota. Bydd yr holl ddeunyddiau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£99,999
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF)
Ardal:
Powys
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Mark Lloyd
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts