Datblygiad Great Cantal Farm

Mae Kate a Wayne Bowen yn gweithredu menter bartneriaeth sy'n cynnwys uned eidion a defaid ar 300 erw yn Great Cantal Farm. Busnes teuluol yw hwn (gŵr a gwraig) lle mae'r tasgau a'r budd yn cael eu rhannu'n gyfartal ond mae gan Kate Bowen fuddiant rheoli yn y busnes. 

Ar ôl i Mid Wales Egg Packing Limited ac Anglia Free Range Eggs Ltd gysylltu â nhw, bydd Kate a Wayne gyfle i gyflenwi wyau o dan gontract i Tesco.

O ganlyniad, mae'r cynnig prosiect hwn yn cynnwys codi adeilad parhaol newydd (cais am ganiatâd cynllunio wedi'i gyflwyno) i ddal 32,000 o ieir mewn uned gynhyrchu adar aml-haen gyda chyfleuster gwaredu tail belt sych awtomatig ar gyfer lleihau allyriadau amonia.

Mae'r prosiect yn cynnwys buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy hefyd, yn benodol gosod system  o baneli ffotofoltäig solar 30 kW i gynhyrchu ac arbed ar gost ynni mawr ei angen ar gyfer yr uned ddofednod newydd.

Yn ogystal, mae'r bartneriaeth yn dymuno buddsoddi mewn cyfarpar EID llawn ar gyfer monitro a rheoli perfformiad y da byw yn well.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£399,980
Ffynhonnell cyllid:
Grant Cynhyrchu Cynaliadwy
Ardal:
Powys
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Wayne Bowen

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts