Mae mesur cnwd glaswellt yn drafferthus ac yn llafurus oherwydd bod angen naill ai sawl mesuriad gan ddefnyddio plât mesur neu gyfri a phwyso trelars silwair.
Mae astudiaethau diweddar wedi dangos y gellid defnyddio adlewyrchiad sbectrol o gnydau glaswellt a fesurwyd gan loeren i fesur cnwd glaswellt yn fanwl gywir. Mae’r dull hwn yn cynnig ffordd haws a chyflymach o fesur cnwd glaswellt a fyddai’n galluogi ffermwyr i brofi effeithiau’r gwahanol driniaethau agronomeg er mwyn gwneud y defnydd gorau o’u glaswellt amaethyddol. Erbyn hyn, gellir defnyddio lluniau o adlewyrchiad sbectrol a dynnwyd gan ddronau i fesur tyfiant glaswellt sy’n gallu cynhyrchu lluniau o ansawdd uwch. Ond, mae hyn yn ddibynnol ar weithredu â llaw.
Mae tri ffermwr llaeth yn Sir Fynwy wedi dod at ei gilydd i ymchwilio a fyddai’r dulliau newydd yma o fesur glaswellt yn eu galluogi i fesur mewn modd dibynadwy a chyflym. Maent yn gobeithio bydd y dechnoleg newydd yn eu galluogi i fesur effeithiau gwahanol driniaethau agronomeg (plaladdwyr, rhywogaethau glaswellt a’r defnydd o chwynladdwyr ayb) ar eu caeau eu hunain.
Cynllun y prosiect tair blynedd:
- Bydd lleiniau arbrofol yn cael eu creu ar un cae silwair ym mhob un o’r tair fferm
- Bydd pob llain arbrofol yn profi triniaeth agronomeg - p’un bynnag sydd o ddiddordeb mwyaf i’r fferm dan sylw, bydd hyn yn cael ei ailadrodd ar hap ar bob cae 2-4 gwaith.
- Y driniaeth rheoli fydd triniaeth safonol y fferm, a bydd y triniaethau eraill yn ceisio gwella ar hyn.
- Bydd lluniau lloeren ac adlewyrchiad sbectrol o’r caeau prawf yn cael eu cymryd tua 2-4 wythnos ar ôl gweithredu’r driniaeth (yn ddibynnol ar y math o driniaeth).
- Bydd tyfiant y glaswellt yn cael ei fesur gan ddefnyddio plât mesur ar yr un pryd er mwyn casglu data manwl gywir.
- Bydd y mesuriadau glaswellt a gesglir drwy’r dulliau hyn wedyn yn cael eu cymharu i brofi effeithiau’r triniaethau agronomeg ar y cnwd glaswellt.
Y gobaith yw bydd y prosiect hwn yn amlygu manteision ac anfanteision pob un o’r technegau mesur glaswellt, ac yna’n galluogi’r ffermwyr sydd eisiau defnyddio’r dechnoleg newydd i benderfynu pa dechneg fyddai fwyaf addas ar gyfer eu system nhw. Mae’n bosibl y gallai’r dulliau newydd yma gynnig ffordd fanwl o fesur gwair heb fod yn rhy ddwys o ran llafur, a fydd yn gallu gwella dichonoldeb y fferm a’i gallu i gystadlu.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£39,495
- Ffynhonnell cyllid:
-
PAE
- Ardal:
-
Dyffryn Wysg
- Cwblhau:
-
- Developing a novel way of rapidly measuring agronomic treatment effects on grass growth
Cyswllt:
- Enw:
- Cate Barrow
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts