Datblygu Dulliau Cefnogaeth yn seiliedig ar ganlyniadau ar gyfer Tir Comin

Bydd y prosiect cydweithredu hwn yn cynnwys chwe Grŵp Gweithredu Lleol - Partneriaeth Ddatblygu Wledig Abertawe fel y partner arweiniol, gan weithio’n agos â’r Fforwm Ewropeaidd ar gyfer Gwarchodaeth Natur a Bugeilyddiaeth, ymgeisydd y grant, a’r cyfranogwr arweiniol a’r corff cyflawni.

Bydd y prosiect yn paratoi Grwpiau Gweithredu Lleol fel eu bod yn barod i weithredu taliadau ar gyfer deilliannau cefnogol ar dir pori comin. Bydd yn gwneud hyn trwy ddatblygu’r protocolau a’r gweithdrefnau ar lawr gwlad. Wedyn bydd modd gweithredu’r rhain yn ehangach ac felly grymuso cyfranogwyr lleol gyda’r profiad a’r wybodaeth i ddylanwadu ar lunio polisïau cenedlaethol.

Dyma’r grwpiau a fydd yn elwa ar y prosiect:

•    Cominwyr / Porwyr
•    Teuluoedd ffermio
•    Cymunedau mewn ardaloedd sy’n gyfagos ac sy’n cael eu hamgylchynu â thir comin detholedig
•    Twristiaid / ymwelwyr
•    Siaradwyr Cymraeg

Bydd y prosiect yn sicrhau bod cominwyr a rhanddeiliaid eraill sydd ynghlwm â thir comin yn cael y manteision gorau oll o ran capasiti i ymgysylltu â pholisi i wneud y canlynol:

•    Datblygu Gweledigaeth ar y cyd - penderfynu ar dargedau a deilliannau a ddymunir 
•    Troi’r weledigaeth yn ddeilliannau mesuradwy
•    Cysylltu deilliannau i daliadau a thaledigion

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£90,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Prosiectau Cydweithredu Cymru
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.3

Cyswllt:

Enw:
Gwyn Jones
Rhif Ffôn:
07884 116048
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts