Bydd y prosiect yn cyflogi Swyddog Datblygu Busnes i roi cyngor, arweiniad a chymorth i fusnesaun ymwneud thwristiaeth yn wardiau gwledig Castell-nedd Port Talbot. Bydd y prosiect hefyd yn canolbwyntio ar helpu busnesau i fanteisio ar gyfleoedd i gydweithio drwy rwydweithio, rhannu arfer da a gweithio ar y cyd. Drwy hynny, byddant yn fwy ymwybodol o wasanaethau/darparwyr eraill yn eu hardal a sut y gallai eu gwasanaethau ychwanegu at brofiad ymwelwyr - a bydd hyn yn elfen bwysig or prosiect. Prif nod y prosiect yw cefnogi, annog a hyrwyddo cynlluniau syn cryfhau cyfraniad y diwydiant ymwelwyr ir economi leol.
Caiff hyn ei gyflawni drwy
- Annog busnesau i ddatblygu atyniadau, cyfleusterau a gwasanaethau newydd;
- Gwellar cysylltiadau rhwng darparwyr a gwasanaethau lleol i gynyddu gwariant lleol;
- Hybu ymdeimlad o le i wella profiad yr ymwelwyr;
- Cynorthwyo a galluogi busnesau twristiaeth i ddefnyddio TGCh a dulliau digidol o farchnata i sicrhau eu bod yn manteisio ir eithaf ar ddatblygiadau ym maes technoleg;
- Annog busnesau twristiaeth i fuddsoddi mewn mesurau arbed ynni syn effeithio er gwell ar yr amgylchedd ac yn gwella perfformiad busnes;
- Cynnig cymorth i fusnesau presennol a buddsoddwyr newydd i ddod o hyd i gyllid ac i ddatblygu syniadau newydd ar gyfer cynhyrchion; a
- Hybu cynlluniau rhwydweithio, rhannu arfer da a chydweithio a defnyddio astudiaethau achos i ddangos sut y gellir gweithion effeithiol mewn partneriaeth.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£150,000
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Castell-nedd Port Talbot
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 2
- Mesur:
-
19.2
- Tourism Development in Neath Port Talbot
Cyswllt:
- Enw:
- Karleigh Davies
- Rhif Ffôn:
-
01639 686417
- Cyfeiriad e-bost:
- k.davies16@npt.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts