Mae'r flwyddyn 2019 yn nodi deng mlynedd ers i UNESCO ddynodi un o safleoedd mwyaf eiconig Cymru yn Safle Treftadaeth y Byd. I ddathlu hyn, bydd elusen Glandŵr Cymru a'i phartneriaid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir Ddinbych ac AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, yn goleuo strwythurau ar hyd coridor 11 milltir Safle Treftadaeth y Byd, gan greu golygfa ryfeddol tair wythnos o hyd ar bum safle allweddol:
- Traphont Ddŵr y Waun,
- Traphont Ddŵr Pontcysyllte,
- Twnnel Whitehouse,
- Rhaeadr y Bedol a
- Dinas Brân.
Cafodd yr uned oleuo eu harddangos yn ‘O Dan y Bwâu’, sef digwyddiad blynyddol a gynhelir yn Nhraphont Ddŵr Pontcysyllte gyda cherddoriaeth fyw, goleuadau a thân gwyllt. Bydd y digwyddiad yn lansio cynhadledd World Heritage UK ym mis Hydref 2019 ac yn para am dair wythnos. Bydd y gweithgarwch hwn hefyd yn cynnwys datblygu Ffilm Ddigidol a digwyddiadau dathlu eraill ar raddfa lai.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£67,370
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF)
- Ardal:
-
Wrecsam
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- Nicola Lewis
- Cyfeiriad e-bost:
- smith@canalrivertrust.org.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts