Bydd y gweithgareddau cyffredinol a gaiff eu hybu fel rhan o brosiect Ddoe a Heddiw @ SWMM (Amgueddfa Glowyr De Cymru) yn canolbwyntio ar ddatblygu a gwella sgiliau gwirfoddolwyr yn yr Amgueddfa ac ar farchnatar gweithgareddau newydd ar teithiau tywys rhyngweithiol a gyflwynwyd yn yr amgueddfa. Er mwyn sicrhau parhad a llwyddiant y prosiect, bydd yr amgueddfan cyflogi dau swyddog; Swyddog Casgliadau a Swyddog Treftadaeth.
Drwy lwyddiant y prosiect hwn, bydd yr amgueddfan gallu ehangu cyfranogiad gwirfoddolwyr drwy rannu arfer da. Cronfa Dreftadaeth y Loteri syn ariannur swyddi hyn. Bydd pwyslais cryf ar recriwtio gwirfoddolwyr newydd. Caiff rhaglen hyfforddi gwirfoddolwyr ei chynllunio ai rhoi ar waith i sicrhau bod gwirfoddolwyr hen a newydd yn gallu cynnal casgliadau ac adnoddaur amgueddfa a gofalu amdanynt yn well, yn unol SPECTRUM, y safon ryngweithiol a chenedlaethol ar gyfer casgliadau a systemau rheoli amgueddfeydd. Bydd hyn yn cynnwys creu tm o wirfoddolwyr a fydd yn gofalun briodol am y casgliadau ac yn gweithio yn eu tro ac yn l-gofnodi casgliadaur amgueddfa.
Bydd gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant ar sut i ddod o hyd i wybodaeth a chynnwys rhyngweithiol ai uwchlwytho drwyr wi-fi ar yr IPS a fydd ar gael mewn lleoliadau allweddol ar hyd y llwybrau cerdded rhyngweithiol arloesol. Drwy gynnal a chadwn arteffactau, a galluogin gwirfoddolwyr i dywys ymwelwyr ar hyd llwybrau cerdded gan ddefnyddio technoleg ddigidol bydd modd newid y cynnwys yn rheolaidd. Bydd y prosiect hefyd yn integreiddior wybodaeth a gesglir gan y gymuned ac ysgolion lleol er mwyn creu profiad mwy rhyngweithiol a phersonol. Bydd hyn yn ychwanegu at sgiliau gwirfoddolwyr ac ymwelwyr a bydd yn annog cyfranogwyr i berchenogir prosiectau yn yr amgueddfa. Bydd hyn yn gyfle ir amgueddfa gynyddu nifer yr ymwelwyr a datblygu ymweliadau mwy amrywiol, a gall hefyd wella cyfranogiad gwirfoddolwyr ar gymuned drwy eu hannog i gyfrannun bersonol at brosiectau lleol.
Bydd yr amgueddfan ystyried denu cyfranogwyr o wahanol gefndiroedd drwy hyrwyddor teithiau tywys a, drwy hynny, ymgysylltiad cymunedol a gweithgareddau yn yr awyr agored. Wrth iddynt gofnodi storau a thrin yr arteffactau, byddant hefyd yn dod i werthfawrogi hanes lleol. Drwy gynnig y prosiect hwn i wirfoddolwyr lleol, gellir ychwanegu gwerth at eu hunaniaeth leol a hyrwyddo adnoddau treftadaeth naturiol a diwylliannol - rhywbeth nad ywn bod eto yng Nghwmafan.
Ar hyn o bryd, mae gwirfoddolwyr yr amgueddfan genhedlaeth syn heneiddio. Bydd eu gwybodaeth au profiad yn diflannu am byth oni bai bod yr amgueddfan cymryd camaun awr, drwy recriwtio gwirfoddolwyr newydd, i drosglwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth leol o hanes Amgueddfa Glowyr De Cymru.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£20,000
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Castell-nedd Port Talbot
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 1
- Mesur:
-
19.2
- ok
- Past to Present@ South Wales Miners’ Museum Case Study
Cyswllt:
- Enw:
- William Sims
- Rhif Ffôn:
-
01639 851833
- Cyfeiriad e-bost:
- info@south-wales-miners-museum.co.uk
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- http://south-wales-miners-muesum.co.uk
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts