Nod Fforwm Ewrop ar Gadwraeth a Bugeilyddiaeth Natur (EFNCP) yw gwyrdroir dirywiad yn y mathau o ffermio sydd fwyaf buddiol i Fioamrywiaeth ar draws Ewrop, trwy eu gwneud yn fwy cynaliadwy yn gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar raddfa fferm a thirwedd. Rydym yn gweithio i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth or polisau a ffactorau eraill syn allweddi iw dyfodol cynaliadwy, trwy ymchwil, rhwydweithio a dialog a thrwy rwydweithio rhwng ardaloedd ffermio dwysedd isel. Nod Commons Vision yw darparu datrysiadau ymarferol i faterion tir comin ac ecolegol trwy eu gwasanaethau ymgynghori, ecolegol, amgylcheddol a rheoli. Maent yn darparu gwasanaeth i sylfaen eang o gominwyr, awdurdodau lleol, elusennau cenedlaethol, sefydliadau statudol a llywodraeth. Mae eu hethos yn seiliedig ar ymagwedd ecosystem, yn gweithio gydar amgylchedd naturiol i gynnal y systemau hynny syn cefnogi ein hanghenion diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol. Eu nod yw sicrhau bod eu heffaith yn fesuradwy a phriodol i anghenion y bobl, tirweddau, cynefinoedd a rhywogaethau dan sylw. Cefndir Mae tir cyffredin yn Sir Benfro yn ficrocosm o diroedd cyffredin ar draws Cymru, gydar cyfle i ystyried gwytnwch arferion bugeiliol ar draws amrywiaeth o gomins ucheldir, iseldir ac arfordirol o amrywiol feintiau a lefelau o drefniadaeth, or bychan iawn i gomins ucheldir mawr y Preseli. Mae Sir Benfro yn bwysig o fewn cyd-destun tir comin yng Nghymru, gydar gyfran fwyaf o gomins cofrestredig yn unrhyw sir. Nododd Adroddiad Cyflwr Comins Cymru 2016 (SOCW) bod Sir Benfro, sir syn 1,590km2, 244 comin cofrestredig syn cwmpasu 5,310Ha sef ~ 3.34% o ardal tir y sir honno. Maer rhan fwyaf or comins cofrestredig yma yn fychan, 3ha o ran maint. Mae nifer or comins bach yma yn anghymwys am gyllid Amaeth-amgylchedd oherwydd cost uchel trafodion. Er gwaethaf hyn, mae comins or fath yn bwysig yng nghyd-destun cyfanrwydd, bioamrywiaeth, cysylltedd cynefinoedd a mynediad tirweddau.
"
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£10,150
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Sir Benfro
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 1
- Mesur:
-
19.2
- Understanding Commoning in Pembrokeshire to Add Future Value
Cyswllt:
- Enw:
- Siôn Brackenbury
- Rhif Ffôn:
-
07879 557740
- Cyfeiriad e-bost:
- sion@commonsvision.com
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- http://www.commonsvision.com
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts