Defnyddio ffilmiau ffotoddetholus i wella proffidioldeb y salad deiliog a gynhyrchir yng Nghymru

Mae defnydd helaeth ar dwneli plastig yn y sector garddwriaeth wedi dod ag amryw o fanteision i’r tyfwyr, fel tymor tyfu estynedig, rheolaeth amgylcheddol well, gwell defnydd ar adnoddau (e.e. dyfrhau) a gwell effeithiolrwydd o ran rheolaeth fiolegol o’i gymharu â chynhyrchu mewn caeau agored.

Bu’r gwaith datblygu cychwynnol ar ffilmiau twneli plastig yn canolbwyntio ar drosglwyddo llawer o olau'r haul ac ymestyn gwydnwch y plastig. Mae datblygiadau mwy diweddar wedi arwain at amryw o ffilmiau ffotoddetholus newydd i dwneli sy'n gallu addasu'r golau sy'n mynd drwy’r twnnel i reoli nodweddion twf penodol a lleihau clefydau:

  • Trawsyriant UV – Mae gwella trawsyriant UV yn gallu effeithio ar ddatblygiad plâu/clefydau, a gall wella lliw a gwerth maethol y cnydau (e.e. faint o wrth-ocsidiau sydd yn y cnwd).
  • Trawsyriant gwasgaredig – Mae’r golau sy'n dod i mewn yn gallu cael ei wasgaru’n eang, gan greu tarth o oleuni. Mae gwasgaru mwy o olau yn gwella dosbarthiad y golau o fewn y canopi, a gall hyn wella'r cyfraddau twf drwyddi draw.
  • Addasu Coch:Coch Pell – Mae'r gymhareb rhwng tonfeddi coch a choch pell yn arwydd ffisiolegol pwysig a all effeithio ar arferion planhigion ac ar y gymhareb o fiomas sy’n cael ei fuddsoddi yn adran y dail ac yn adran y goes.

Prin yw'r defnydd ar ffilmiau ffotoddetholus yng nghymuned y tyfwyr bach, ac un esboniad ar hyn yw ddiffyg gwybodaeth amdanyn nhw, ond fe allai eu potensial fod yn fawr. Yn y prosiect hwn bydd dwy uned arddwriaeth ar raddfa fach yn Ynys Môn a Sir y Fflint yn treialu tair ffilm ffotoddetholus wahanol (Sunmaster Diffuse, SunSmart Blue a Sunmaster Crystaltherm) ochr yn ochr â ffilm polythen UV wedi'i sefydlogi (o ran cymhariaeth) dros ddau dymor tyfu.

Cynllun y prosiect:

Bydd y cnydau a fydd yn cael eu cynnwys yn y treial ar bob safle yn cynnwys o leiaf dri math o gyltifar cyferbyniol (e.e. letys pen caeedig/agored, lollo rosso, mizuna gwyrdd a lliwgar, dail mân a berwr).

Bydd amryw o dwneli unigol 1m x 4.8m yn cael eu gorchuddio â gwahanol ffilmiau a'u gosod mewn patrwm bloc ar hap a fydd yn gorchuddio arwynebedd o 5 x 14m ar bob safle. Bydd cyfuniad o gyltifarau yn cael eu tyfu ym mhob twnnel.

Bydd y tyfwyr yn cael cymorth gan ymgynghorwyr sy’n arbenigo ar reoli clefydau a hefyd hyfforddiant ar ddulliau trin plastig ac adeiladu twneli er mwyn gwneud y gorau o'u hirhoedledd. Bydd perfformiad y cnwd yn cael ei fonitro gydol y tymor tyfu ynghyd â mynychder plâu a chlefydau. Adeg y cynhaeaf caiff yr wybodaeth ganlynol ei chasglu:

  • Yr amser rhwng hau a chynaeafu
  • Biomas ffres (planhigion unigol a chynaeafau gros) a faint o’r cynnyrch sy’n addas i’w farchnata. Bydd y cyltifarau’n cael eu dethol ar sail manylebau tebyg i ganiatáu dwysedd plannu tebyg, cyfnodau twf etc.
  • Lliw’r cnwd (e.e. cloroffyl, anthocyanin)
  • Arwynebedd a nifer y dail, a phensaernïaeth y pen 
  • Rhychwant oes ar ôl y cynhaeaf – methiant y ddeilen dros gyfnod storio penodol sy'n cyfateb i’r arferion masnachol cyffredin.

Bydd y prosiect yn darparu gwybodaeth i dyfwyr eraill sydd â diddordeb mewn ffilmiau ffotoddetholus, sef gwybodaeth ynghylch a oes manteision arwyddocaol o safbwynt nodweddion maethiadol a gweledol y planhigion sy'n cael eu tyfu o dan y ffilmiau hyn. Gall hefyd gynnig arweiniad ynghylch pa fath o ffilm sydd fwyaf addas ar gyfer amodau’r safle neu’r math o gnwd. Y gobaith yw y gall y ffilmiau gynnig ateb cymharol rad i gynyddu cynhyrchiant mewn unedau garddwriaeth ar raddfa fach.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£40,000
Ffynhonnell cyllid:
PAE
Ardal:
Sir y Fflint
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Will John
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts