Nod y prosiect yw ceisio deall yn well pa ran sydd i dechnoleg IoT mewn ymdrechion i fod yn fwy effeithlon wrth daenu slyri. Mae cyflwr y pridd, y lefel trwythiad, lefelau glawiad a thymheredd yr aer oll yn dylanwadu ar ba mor debygol y mae dŵr o lifo oddi ar gaeau. Pan mae hyn yn digwydd ar ôl taenu slyri gall wastraffu ffynhonnell faeth werthfawr ac mae’n berygl o lygru cyrsiau dŵr naturiol.
Bydd y prosiect hwn yn profi amrywiol synwyryddion yng Ngholeg Glynllifon ac ar ddwy fferm laeth arall yng ngogledd-orllewin Cymru, Hen Dŷ yng Nghaernarfon ac Erw Fawr ger Caergybi. Gobaith y ffermwyr yw, drwy fod ganddynt wybodaeth amser real am gyflwr y tir, y gallant wneud penderfyniad yn gyflym a diogel ynglŷn â rheoli slyri.
Caiff gwahanol synwyryddion IoT eu lleoli ar y tair fferm:
Synwyryddion lefel trwythiad – Bydd y prosiect yn ceisio gweld a yw monitro’r lefel trwythiad yn fanwl yn rhoi i ffermwyr wybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â phryd mae’n briodol taenu slyri ar gae.
Synwyryddion lleithder pridd – Bydd y prosiect yn profi ansawdd y data a gynhyrchir yn erbyn nifer y synwyryddion ym mhob cae a phatrwm eu lleoliad.
Mesuryddion Glaw – Bydd gosod synwyryddion mesur glaw yn galluogi ffermwyr i fonitro glawiad yr ardal. Bydd hwn yn un o’r ffactorau wrth wneud y penderfyniad ynglŷn ag yw’r amodau’n iawn i daenu slyri.
Synhwyrydd Lefel y Storfa Slyri – Rhaid i ddulliau rheoli slyri effeithiol gynnwys sicrhau bod digon o le i’w storio’n ddiogel ar y fferm. Bydd hyn yn rhoi i ffermwr wybodaeth fanwl am y capasiti storio ar y fferm. Gellid casglu’r data mor ag aml ag sy’n synhwyrol. Gallai cofnod dyddiol er enghraifft roi gwybodaeth ddefnyddiol am faint o slyri a gynhyrchir ar fferm a datgelu ffyrdd newydd o reoli slyri yn fwy effeithlon.
Bydd y wybodaeth a geir o’r gwahanol synwyryddion yn bwydo i ap a fydd yn dangos map o’r caeau fel dangosfwrdd, gan ddangos y caeau sy’n addas/ anaddas i daenu slyri arnynt. Bydd y prosiect hefyd yn gwerthuso’r cyfle i IoT gael ei ddefnyddio i wneud hunanarchwiliadau, drwy gofnodi amodau amgylcheddol a rhagolygon y tywydd ar gyfer ffermydd fel tystiolaeth bod slyri yn cael ei daenu mewn amodau addas bob amser. Y prosiect hwn fydd y cyntaf o’i fath yng Nghymru a bydd y grŵp yn gwerthuso’r fethodoleg o ddefnyddio technoleg IoT at ddefnydd amaethyddol penodol megis rheoli slyri er mwyn canfod arferion da y gallai ymdrechion eraill i ddefnyddio IoT mewn ffermio eu mabwysiadu.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£39,974
- Ffynhonnell cyllid:
-
PAE
- Ardal:
-
Gwynedd
- Cwblhau:
-
- Using 'Internet of Things' (IoT) technology to improve slurry management on farms
Cyswllt:
- Enw:
- Geraint Hughes (Landsker)
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts