Y bwriad ydi I roi tanciau dwr (ac oerwyr) I mewn yn ysgolion cynradd yn ystod y tymor deor wyau pysgod. Y gobaith fydd I weithio gyda ysgolion cynradd sir Conwy sydd wedi ei lleoli o fewn ffiniau ac ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri, gan flaenoriaethu y rhai o fewn y ffiniau. Bwriadir gweithio gyda hyd at 18 ysgol, gyda chwech o’r rhain yn disgyn tu fewn I ffiniau y Parc.Bydd yr ysgolion yn cael ei dewis I gydfynd a ardaloedd Wardeiniaid gwahanol APCE er mwyn rhoi adnodd staff digonnol I gefnogi y prosiect, rhagdybir mai.
Ysgol Penmachno ac Ysgol Capeleulo fydd yr ysgolion cyntaf i gymeryd rhan yn y prosiect. Bydd y wyau yn cael ei cyflenwi gan staff Cyfoeth Naturiol Cymru, bydd y plant yna yn deor y wyau yn y dosbarth gan ei gwylio yn tyfu yn bysgod.. byddant yn gallu cynnal gweithgareddau gwyddonol, mathamateg, dearyddiaeth I gyd oddi wrth hyn.
Bydd aelodau o gymdeithas pysgota lleol, staff CNC ac Staff APCE ar gael I ymweld ar ysgol a cynnal sesiynnau penodol hefo y disgyblion gan gynnwys teithiau tywys ir afon lleol ble bydd y plant yn gollwng y pysgod Ifanc iddi yn y gwanwyn ac hefyd I Lyn Trawsfynydd I ymweld ac I ddysgu fwy am ddeorfa llawer mwy.
Mae y pecynau Addysg wedi ei paratoi eisioes gan y cymdeithasau pysgota ond mae angen ei cyfiaethu. Cost y prosiect yn benodol fydd costau prynnu offer (tanciau ac oerwyr) I allu ei rhoi I mewn yn y dosbarth.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£1374.00
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Conwy
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 1
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Rhys Owen
- Cyfeiriad e-bost:
- rhys.owen@eryri-npa.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts