Dewch i Greu Ar-lein (RecRock)

Rydyn ni'n gweithio gyda'r gymuned i ddarparu cyfres o gyrsiau ar-lein am ddim sy'n canolbwyntio ar greadigrwydd, lles a chreu cysylltiadau cymunedol i leihau teimlo'n ynysig. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn ein byd ni ar hyn o bryd, sy'n cael ei effeithio gan coronafeirws, gyda mwyfwy o bobl yn teimlo'n ynysig, pobl yn cael eu hallgáu, ac adferiad economaidd sy'n canolbwyntio ar feysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), a chyfleoedd lle mae angen sgiliau ar gyfer yr economi ddigidol.

Bydd ein cwrs ni'n cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â buddiolwyr ac ymarferwyr creadigol lleol. Bydd yn cael ei gyflwyno'n fyw dros Zoom, a bydd ar gael ar alw wedi hynny i'r rhai sy'n cymryd rhan ynddo. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar gerddoriaeth, celf, ysgrifennu creadigol a'r cyfryngau.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£28096.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Caerffili
Cwblhau:
Thema:
1, 2, 3, 4
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Kevin Eadon-Davies
Rhif Ffôn:
01443 838632
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts