Dod a’r Cobyn Cymreig Adref

Pwrpas y prosiect Croeso Adre i’r Cobyn oedd llwyfannu arddangosfa a phasiant arbennig ym mis Awst 2018 i ddathlu'r cysylltiadau hir sefydlog rhwng Ceredigion a Llundain, yn ogystal â nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. ‘Croeso Adre i’r Cobyn’ oedd prif nodwedd yr Ŵyl a oedd yn cael ei chynnal ar y Cae Sgwâr yng nghanol tref Aberaeron.

Y nod oedd codi ymwybyddiaeth o’r rôl a chwaraeodd y Cob Cymreig yn y llaethdai yng Nghymru Llundain yn ogystal â stori’r llaethwyr eu hunain - platfform a fydd yn ail-fywiogi’r hanes o fewn treftadaeth ddiwylliannol Ceredigion.

Rhoddodd yr Ŵyl gyfle i fridwyr a pherchnogion arddangos eu merlod a’u cobiau mewn lleoliad unigryw ac amgylchedd anghystadleuol, ac, yn ei dro, addysgu eraill mewn amgylchedd gwybodus, anffurfiol a hwyliog. Roedd yr Ŵyl hefyd yn darparu ffenestr siop i fridwyr a chyfle i bawb sy'n berchen ar ferlen neu gob Cymru gymryd rhan mewn diwrnod sy'n cofleidio'r bridiau Cymreig.

Roedd y dathliad yn bywiogi proffil busnes bridwyr Cob enwog Ceredigion ac yn cryfhau ymhellach waith pwysig Cymdeithas Merlod a Chobiau Cymreig a lleolir yn Felinfach. Er ei bod yn anodd ei fesur, rhaid nodi budd tymor hir, sef potensial y stori i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o Gardis i weithio ar y cyd ac yn rhagweithiol wrth ddefnyddio eu synnwyr hunaniaeth fabwysiedig neu etifeddol fel deinameg ganolog tuag at lwyddiant.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£18,009
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Ceredigion
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Cynal y Cardi
Rhif Ffôn:
01545 572063
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.cynnalycardi.org.uk/

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts