Dolydd Dolau Dyfi

Mae’r prosiect cydweithredol hwn yn canolbwyntio ar gyfuno adnoddau naturiol â buddion iechyd a lles yn ardal afon Dyfi. Mae’n cynnwys awdurdodau lleol, tirfeddianwyr, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, RSPB, Ymddiriedolaeth Natur Trefaldwyn a Chadwch Gymru’n Daclus, a bydd yn tyfu wrth i’r prosiect ddatblygu ac wrth i’r cyhoedd a’r cymunedau cyfagos ymuno yn y gwaith. Mae glaswelltir naturiol yr iseldir wedi dirywio’n aruthrol. Hefyd,  mae’r ganran sydd â chlefyd y galon, diabetes, salwch meddwl neu sy’n ordew yn yr ardal hon yn uwch nag ydyw drwy Gymru a’r DU.  

Nod y prosiect yw mynd i’r afael â’r heriau hyn drwy wella ardaloedd penodol o’r dirwedd a chysylltu pobl â natur. Caiff arian ei fuddsoddi mewn 35 o ardaloedd i wella dulliau rheoli cynefin ac i hwyluso trefniadau pori cynaliadwy a chryfhau’r ecosystem. Caiff arian ei fuddsoddi hefyd i wella mynediad a hyrwyddo’r ardal er mwyn annog pobl leol ac ymwelwyr i ddefnyddio’r awyr agored ac i greu lleoedd diogel a phleserus i ymweld â nhw.

Bydd gweithgareddau eraill yn mynd rhagddynt hefyd fel sefydlu rhwydwaith o wirfoddolwyr lleol, prosiect celf a rhaglen “cerdded i dramatig iechyd” o bosibl. Gall y rhai a fydd yn elwa ar y prosiect gynnwys busnesau fferm a chymunedau gwledig, gan gynnwys cyflogi contractwyr lleol a hybu busnesau twristiaeth lleol.   

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£467,115
Ffynhonnell cyllid:
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
Ardal:
Gwynedd
Cwblhau:
Dolau Dyfi Meadows
Dolau Dyfi short film to celebrate the start of the project

Cyswllt:

Enw:
Julia Korn
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts