Mae tri ffermwr yng ngogledd ddwyrain Cymru yn ymchwilio a oes dull wedi ei dargedu yn well o reoli buchod sych a all weithio tuag at eu nod o leihau’r defnydd o wrthfiotig heb amharu ar iechyd a lles y fuches.
Nod therapi dethol i fuchod sych (SDCT) yw lleihau’r therapi eang trwy dargedu’r buchod â heintiad yn eu tethi â gwrthfiotig yn unig a dim ond seliwr i’r rhai â phwrs/cader iach. Yn y gorffennol roedd hyn yn dibynnu ar gofnodion llaeth misol a chyfrif celloedd somatig unigol, cofnodion mastitis, a defnyddio Prawf Mastitis Califfornia (CMT) ar y diwrnod sychu. Mae profion CMT yn ddibynnol ar ddehongliad ac nid ydynt bob amser yn cael eu cynnal yn ôl y manylebau ac mae’r SCC wrth gofnodi llaeth yn rhoi cyfartaledd y pedwar chwarter a gall fod hyd at fis oed.
Yn y prosiect hwn bydd y ffermwyr yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf trwy gynnal profion gwahaniaethau lewcocyt (MLD) gan ddefnyddio Q Scout Farm Lab. Peiriant diagnostig cludadwy wedi ei brofi yn wyddonol yw Q Scout sy’n sganio samplau llaeth yn ficroscopig. Mae’n rhoi cyfle i samplo a phrofi pob chwarter cyn sychu i bennu a yw chwarteri unigol angen therapi gwrthfiotig i frwydro yn erbyn heintiad yn y deth, neu a allant gael eu sychu gan ddefnyddio seliwr teth mewnol yn unig. Mae canlyniadau’r profion ar gael yn gyflym iawn, sy’n golygu y gall rheolwyr stoc llaeth gael data cyfredol am iechyd y pwrs/cader sy’n golygu eu bod yn gallu bod yn hyderus yn eu penderfyniadau ar gyfer pob buwch a phob chwarter.
Mae’r tair buches laeth yn cyfateb i tua 800 o wartheg Holstein Friesian sy’n llaetha. Mae’r tair buches mewn ardal ddaearyddol debyg.
Fferm 1: Buches o 180 sy’n lloea trwy’r flwyddyn, yn pori yn ystod y dydd yn y gwanwyn-hydref. Mae’r fuches yn un gynhyrchiol iawn ar 10,000 litr gan bob buwch y flwyddyn. Maent yn cael eu godro ddwywaith y dydd a’r cyfrif celloedd yn flynyddol ar gyfartaledd yw 165,000/ml. Mae 3-5 o fuchod yn cael eu sychu bob wythnos gan ddibynnu ar y cynnyrch a’r dyddiad lloea.
Fferm 2: Buches o 300 buwch yn lloea trwy’r flwyddyn yn magu eu stoc cyfnewid eu hunain. 10,500 litr gan bob buwch y flwyddyn. Maent yn cael eu godro ddwywaith y dydd a’r cyfrif celloedd yn flynyddol ar gyfartaledd yw 154,000/ml. Mae 5-7 o fuchod yn cael eu sychu bob wythnos gan ddibynnu ar y cynnyrch a’r dyddiad lloea
Fferm 3: Buches o 300 buwch yn lloea trwy’r flwyddyn yn magu eu stoc cyfnewid eu hunain. 8,500 litr gan bob buwch y flwyddyn. Maent yn cael eu godro ddwywaith y dydd a’r cyfrif celloedd yn flynyddol ar gyfartaledd yw 176,000/ml. Mae 5-7 o fuchod yn cael eu sychu bob wythnos gan ddibynnu ar y cynnyrch a’r dyddiad lloea
Bydd cyflwyno’r dechnoleg newydd hon i ddiwydiant llaeth y Deyrnas Unedig yn gadael i ffermwyr weithredu SDCT yn gywir a hyderus, a helpu i leihau’r ddibyniaeth ar y defnydd proffylactig o wrthfiotig.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£39,456
- Ffynhonnell cyllid:
-
PAE
- Ardal:
-
Gwynedd
- Cwblhau:
-
- Targeted approach for selective dry cow management decision making
Cyswllt:
- Enw:
- Neil Blackburn (Kite Consulting)
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts