Dychwelyd i Chwarae

Mae Bryn Rovers yn chwarae rhan arwyddocaol yn ei gymuned, gan ymhyfrydu mewn cynnig lle ble gall oedolion a phlant fwynhau amgylchedd hwyliog a diogel i ymarfer ynddo.

Y cae yw prif gae gweithgareddau pêl-droed yr ardal, ac mae’r clwb yn gobeithio’i uwchraddio i wneud yr ardal yn addas ar gyfer ailddechrau chwarae pêl-droed ac er mwyn dilyn canllawiau COVID-19. Byddai cael dau gwt cysgodi a ffens i redeg o gwmpas y cae yn galluogi’r clwb i sicrhau diogelwch chwaraewyr, hyfforddwyr a gwylwyr pryd bynnag y cânt hawl i ddychwelyd.

Byddai cael ffens yn galluogi’r clwb i ddiogelu chwaraewyr drwy gadw unrhyw wylwyr a rhai sy’n digwydd bod yno oddi ar y cae, a byddai hefyd yn rhoi cyfle i’r clwb ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol yn well hefyd, drwy nodi parthau clir i bobl sefyll i wylio’r cae.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£8,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Castell-nedd Port Talbot
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2
Return to Play

Cyswllt:

Enw:
Jordan Griffiths
Rhif Ffôn:
07342 973766
Email project contact
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts