Nod y prosiect cydweithredol hwn, ar raddfa’r dirwedd gyfan, yw cyfuno ac integreiddio’r gwaith o reoli ardal arbennig yn Nyffryn Tywi, rhwng Caerfyrddin a Llandeilo, er budd bywyd gwyllt, treftadaeth a chymunedau’r ardal a hynny drwy gryfhau’r rhwydwaith o dirfeddianwyr, rheolwyr tir ac arbenigwyr.
Bydd y prosiect yn galluogi tirfeddianwyr a rheolwyr i fanteisio ar wybodaeth a chyngor arbenigol i helpu i wella gwasanaethau ecosystemau a gwella’r dulliau o reoli’r dirwedd hanesyddol. Bydd angen cymryd camau i wella’r parcdir hanesyddol yng Ngerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru a’i droi’n esiampl o system gynaliadwy o reoli adnoddau naturiol, sy’n agored i’r cyhoedd. Mae’r Gerddi a’r ardal gyfagos yn gyrchfan gwych ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau hamdden, gan gynnwys cerdded, rhedeg, beicio, dringo coed, adeiladu cuddfannau, archaeoleg, garddwriaeth, arolygu ecolegol ac ymweld â ffermydd.
Mae’r prosiect hefyd yn cynnig cyfleoedd i hybu iechyd fel gweithio gyda Down To Earth, menter gymdeithasol lwyddiannus, sy’n helpu pobl i newid eu bywydau er gwell drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored ystyrlon. Mae’r fenter yn canolbwyntio’n benodol ar bobl agored i niwed sydd â chyflyrau iechyd meddwl ac anafiadau sydd wedi creu trawma ymenyddol.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£698000.00
- Ffynhonnell cyllid:
-
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
- Ardal:
-
Sir Gaerfyrddin
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- Rob Thomas
- Cyfeiriad e-bost:
- rob.thomas@gardenofwales.org.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts