Dysgu am Goed

Mae'r Gymdeithas Coedwigaeth Frenhinol (CCF) a Tir Coed yn datblygu partneriaeth arloesol i gyflwyno'r rhaglen ‘Dysgu am Goed’ yng Nghymru. Nod Tir Coed yn gyntaf yw addasu'r ddarpariaeth Saesneg i'r cwricwlwm Cymraeg a chyfieithu'r holl adnoddau addysgu, a chyflwyno cynllun peilot o'r rhaglen ar draws y 44 ysgol gynradd yng Ngheredigion dros ddwy flynedd academaidd.

Nod y prosiect yw rhoi cyfle i blant ennill gwerthfawrogiad o goetiroedd, gwerth am fywyd gwyllt, pren ac am fwynhad wrth ysgogi sgiliau gwyddonol, daearyddol a hanesyddol ynghyd â hyrwyddo sgiliau creadigol ac ymwybyddiaeth gadwraeth. Bydd y sesiynau'n cael eu harwain gan Swyddog Addysg profiadol ac fe'u cynlluniwyd i gyffroi a hysbysu plant am eu treftadaeth coetir leol a phwysigrwydd coetiroedd heddiw ac yn y dyfodol.

Mae'r gweithgareddau'n hygyrch i gadeiriau olwyn a'r rhai sy'n cael trafferth gyda llythrennedd a chyfathrebu yn yr ystafell ddosbarth, a byddant yn cynorthwyo athrawon a staff cymorth i gyflwyno gwersi yn yr amgylchedd naturiol.

 

 

 

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£22,409
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Ceredigion
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Cynnal y Cardi
Rhif Ffôn:
01545 572063
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.cynnalycardi.org.uk

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts