Echdynnu coed nenlinell

Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi'r cwmni i wneud mwy o waith mewn coetir anhygyrch na fyddent yn gallu ei wneud fel arall ar hyn o bryd. Mae'r buddsoddiad hwn hefyd yn arwain at gael y gallu i weithio ar a chael mynediad i ardaloedd bach o goetir sy'n dir serth ac anodd. Byddai'n lleihau erydiad pridd a difrod i dir naturiol/cynefinoedd hefyd drwy leihau'r angen i gloddi traciau mynediad diangen. Byddai'n lleihau faint o beiriannau y byddai'n rhaid eu defnyddio gyda'r cyfarpar arbenigol hwn, a fyddai felly'n lleihau costau gorbenion a llygredd amgylcheddol diangen. Byddai'r buddsoddiad o fudd i'r cwmni gan y byddai'n gallu derbyn gwaith na fyddai llawer o gwmnïau eraill yn gallu ei wneud gan nad oes llawer o Skyliners yn yr ardal.

Effeithiau/manteision y buddsoddiad hwn yn y pen draw fyddai llai o gostau rheoli ac echdynnu coed, cynyddu faint o goed a geir ar gyfer y farchnad o goetiroedd a oedd yn anhygyrch ac yn cael eu tanreoli o'r blaen. Drwy wneud hyn byddai'n cynyddu gwerth y coed ar ochr y ffordd a gwerth y coed heb eu cwympo i berchennog y coetir, cynyddu'r elw i berchnogion y coetir a'r fantais ariannol i'r tyfwr. Byddai'n cynyddu rheolaeth ragweithiol o'r coetir ac yn annog plannu mwy o ardaloedd o rywogaethau amrywiol. Byddai'n ysgogi a chryfhau cysylltiadau o fewn y gadwyn gyflenwi gan y tyfwr, drwy reoli asiantwyr ein hunain fel contractwyr, melinau llifio a chwsmeriaid.

Byddai'n sicrhau hyfywedd a phresenoldeb parhaus ein gwasanaethau arbenigol fel cwmni hefyd.

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£74,990
Ffynhonnell cyllid:
Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren
Ardal:
Powys
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Huw Davies
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts