Egni Rural NPT

Mae Awel Aman Tawe (AAT), a sefydlwyd ym 1998, ar flaen y gad ym maes ynni adnewyddadwy yn y gymuned, ac mae gan y cwmni nifer o flynyddoedd o brofiad wrth ddatblygu rhaglenni cymunedol a rhoi cyngor amdanynt, gan gynnwys ynni gwynt, solar, biomas a hydro. Yn 2000, sefydlodd AAT Egni Coop er mwyn cynyddu cyfrannau cymunedol trwy ddatblygu paneli solar ffotofoltaidd ar adeiladau dan berchnogaeth cymunedol yn ne Cymru.

Sicrhawyd cyllid gan LEADER i osod paneli solar ar adeiladau dan berchnogaeth y gymuned yn Nghastell-nedd Port Talbot er mwyn cynhyrchu ynni adnewyddadwy, a bydd hyn yn cynnwys sicrhau prydlesau ar bob safle, cwblhau arolygiadau strwythurol ar bob adeilad i sicrhau bod strwythur y toeon yn ddiogel, sicrhau y gellir cysylltu'r safleoedd â'r grid trwy Western Power Distribution a marchnata cynnig cyfrannau i ariannu prynu'r paneli solar ffotofoltaidd ar gyfer yr adeiladau hyn.

Trwy osod paneli solar, gellir cynhyrchu ynni adnewyddadwy, a fydd yn galluogi adeiladau dan berchnogaeth y gymuned i leihau eu costau ynni ac arbed arian. Byddai'r cyfle i gyfranogi yn y cynnig cyfrannau hefyd yn rhoi cyfle i bobl leol fuddsoddi mewn dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr adeiladau cymunedol hyn. Disgwylir y bydd y gwaith hwn yn lleihau allyriadau carbon 100 tunnell yn y cymunedau hyn.

Bydd perchnogion yr adeiladau cymunedol hyn yn elwa o gael trydan rhatach, a fydd yn eu galluogi i barhau i weithio i gefnogi adfywio lleol, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a chreu ffynonellau cyllid cynaliadwy ar gyfer y gymuned leol. 

Mae Castell-nedd Port Talbot yn cyflwyno solar to ar draws chwe safle (Saesneg yn Unig)

PDF icon

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£16,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Castell-nedd Port Talbot
Cwblhau:
Thema:
4
Mesur:
19.2
Egni Rural NPT

Cyswllt:

Enw:
Dan McCallum
Rhif Ffôn:
01639830870
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://awel.coop/
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts