Ehangu busnes coedwig New Heights

Rydym am ehangu ein busnes sy'n tyfu'n gyflym ymhellach i gynhyrchu coed tân mewn marchnadoedd cyfanwerthu a manwerthu, mae llawer o'n llafur yn cael ei ddefnyddio drwy gynhyrchu coed o fyrnau o goed a gludir o'r goedwig, fel boncyffion y gallwn eu pecynnu mewn rhwydi neu fagiau llwyth i fod yn barod i'w danfon ledled y Gogledd pan fo angen. Wrth i'n busnes ehangu dros y ddwy flynedd ddiwetha rydym wedi buddsoddi mewn peiriannau i ateb galw ein cwsmeriaid presennol,a bob blwyddyn rydym wedi llwyddo i ddarparu cynnyrch i gwsmeriaid masnachol a manwerthu ychwanegol. Yn 2014, prynwyd peiriant i gynhyrchu priciau tân ar gais ein cwsmeriaid coed tân masnachol presennol gan fod hwn yn gynnyrch â galw mawr amdano nad oedd ar gael yn yr ardal ac yn cael ei brynu o du allan i'r Gogledd. Ers buddsoddi yn y peiriant hwn rydym wedi cael trafferth ateb y galw am ein cynnyrch newydd ac nid oes gan ein prosesydd coed tân cyfredol a brynwyd yn 2012 y capasiti i gyflawni ein harchebion coed tân, heb gynnwys y coed sydd eu hangen ar gyfer cynhyrchu priciau tân o'r byrnau coed.

Mae'r peiriant Posch S360 newydd yn cynyddu'r capasiti i gynhyrchu boncyffion dros 60% ac mae'n gallu tori cylchoedd yn unig i'w defnyddio drwy ein peiriant priciau. Gyda'n prosesydd coed tân presennol mae'n rhaid symud y cylchoedd coed â llaw i'w hatal rhag cael eu hollti'n foncyffion cyn mynd i'r cludydd i symud y coed o'r peiriant, sy'n gwneud y broses yn araf iawn.

Rydym wedi buddsoddi llawer yn ein busnes dros y blynyddoedd diwethaf ond mae angen rhywfaint o gymorth arnom i fynd â'n busnes i'r lefel nesaf i ateb y galw cynyddol am ein cynhyrchion.
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£11,695
Ffynhonnell cyllid:
Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren
Ardal:
Conwy
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Russell Jones
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts