Ffermio Cymysg

Prosiect ar thema Cydweithio yw hwn rhwng Powys, Ceredigion a Gwynedd.

Gan ddefnyddio fframwaith Biosffer Dyfi, nod cyffredinol y prosiect yw cynnal cynllun peilot o gysyniad gwasanaeth data gyda gwybodaeth atodol sy’n annog symud tuag at amaethyddiaeth gymysg gynaliadwy ac economi cynhyrchu bwyd lleol mwy cydnerth.

Mae’r prosiect yn cynnig porth gwybodaeth amlwg sy’n dangos defnyddiau tir hanesyddol o safbwynt amaethyddol a choetiroedd yn ardal dyffryn Dyfi, a’i integreiddio gyda gwybodaeth gyfredol ar agweddau ar ddefnydd tir gan ddefnyddio data synhwyro o bell.

Dangosir y galw am fwyd a gynhyrchir gan ddefnyddio dulliau amgylcheddol cadarn trwy gysylltu cynhyrchwyr presennol a darpar gynhyrchwyr â rhwydwaith o ddefnyddwyr a manwerthwyr lleol. Bydd hanesion llafar a gesglir gan ffermwyr y genhedlaeth hŷn yn ychwanegu at wybodaeth am ddefnydd o ffermdir yn y gorffennol, ac yn tynnu sylw at oblygiadau cymdeithasol-ddiwylliannol o ran newidiadau mewn arferion amaethyddol.

Bydd y gwasanaeth yn:

  • Dangos dichonoldeb a manteision cymdeithasol ac ecolegol ehangach amaethyddiaeth gymysg.
  • Darparu deunyddiau ffynhonnell lleol i addysgwyr am hanes defnydd o dir ac amaethyddiaeth

Prif ddeilliannau’r prosiect:

  • Porth gwybodaeth o ddiddordeb eang, i ysgogi’r economi bwyd lleol
  • Gwerthfawrogi ar lefel ehangach y newid o ran defnydd tir, a chyfleoedd cysylltiedig, yn enwedig ymhlith y gymuned amaethyddol
  • Cynyddu dealltwriaeth o gyfraniadau potensial synhwyro o bell a gwneud penderfyniadau ym maes amaeth
  • Cynyddu dealltwriaeth o fanteision grymuso cymunedau ac integreiddio’r arfer o gynhyrchu bwyd a’r amgylchedd

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£79,735
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Prosiectau Cydweithredu Cymru
Cwblhau:
Thema:
5
Mesur:
19.3
Mixed farming - histories and futures

Cyswllt:

Enw:
Louise Nicholson
Rhif Ffôn:
01597827378
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts