Ffermio Gwastadeddau Gwent yn Gynaliadwy

Mae’r prosiect cydweithredol hwn yn cynnwys RSPB Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gwent, sy’n cydweithio’n agos â ffermwyr a phartneriaid eraill i feithrin dealltwriaeth, gwybodaeth, sgiliau a phrofiad er mwyn medru cyflwyno dulliau cynaliadwy o reoli adnoddau naturiol ar Wastadeddau Gwent. 

Bydd y ffermwyr a’r partneriaid eraill yn cymryd camau i wella’r adnoddau naturiol yn yr ardal, yn enwedig dulliau o reoli dŵr a phridd. Bydd y gwaith yn cynnwys gwella a chreu cynefinoedd, gan greu’r posibilrwydd o wella cyflwr y pridd, a sefydlu stribedi cynefin ar gyfer peillwyr, a fydd hefyd yn gweithredu fel tir clustog ar gyfer cyrsiau dŵr.

Drwy fanteisio ar y ffaith bod y tir mor wastad yn yr ardal, bydd y prosiect yn achub ar bob cyfle i ddatblygu llwybrau beicio di-draffig, a chyfleoedd i ddenu ymwelwyr i fwynhau’r cyfleusterau hamdden sydd ar gael eisoes ar ffermydd, a bydd hefyd yn creu cyfleusterau newydd. 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£554,953
Ffynhonnell cyllid:
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
Ardal:
Bro Morgannwg
Cwblhau:
Farming the Gwent Levels Sustainably

Cyswllt:

Enw:
Jonathan Cryer
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts