Diben cyffredinol y prosiect yw datblygu ymgyrch farchnata a fydd yn cyfleu Gwynedd, Ceredigion a Sir Benfro fel cyrchfannau twristiaeth rhagorol drwy gydol y flwyddyn drwy gysoni â thema Blwyddyn Darganfod Croeso Cymru ac, yn benodol, Ffordd yr Arfordir sydd newydd gael ei lansio fel rhan o fenter Ffordd Cymru. Bydd y prosiect yn galluogi'r tri chyrchfan i ddatblygu cynnyrch Ffordd yr Arfordir ymhellach drwy ddatblygu cynnwys cyrchfan deniadol a fydd yn galluogi partneriaid i gynnal ymgyrch farchnata arloesol. Nod yr holl gynnwys ac ymgyrchoedd marchnata a ddatblygir fydd mynd i'r afael â'r prif amcanion a nodwyd:
- Gwella tymoroldeb
- Cynyddu gwariant ar dwristiaeth
- Cynyddu amlygiad brand cyrchfannau a busnes twristiaeth
- Cysoni â dull gweithredu Croeso Cymru ar gyfer y blynyddoedd thematig a Ffordd Cymru
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£150,000
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF)
- Ardal:
-
Gwynedd
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- Sian Jones
- Cyfeiriad e-bost:
- Sianjones@gwynedd.llyw.cymru
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts