FLOW - Gwaith sy'n seiliedig ar Ganlyniadau a Ariannwyd gan LEADER Fairwood

Nod y prosiect hwn yw gweithio'n agos gyda phorwyr, y gymuned a CNC i gynhyrchu cynnig taliadau sy'n seiliedig ar ganlyniadau sydd wedi'i brofi a'i gostio'n llawn, yn benodol ar gyfer Comin Fairwood.  Mae Fairwood yn cefnogi bioamrywiaeth sy'n bwysig yn rhyngwladol, mae wedi cael ei bori'n draddodiadol ers canrifoedd ac mae o bosib yn rhan werthfawr o incymau ffermio.  Fodd bynnag, mae'n wynebu heriau mawr ac nid yw cynlluniau cymorth amaethyddol arferol wedi cyflawni canlyniadau sylweddol eto. 

Allbwn y prosiect fydd dyluniad cynllun sy'n hyblyg, yn ymarferol ac yn werth chweil i borwyr, ac yn absenoldeb cymorth perthnasol gan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd ar ddod, gallai'r prosiect hwn gael ei roi ar waith drwy gytundebau rheoli CNC a llywio cytundebau eraill o'r fath yn Abertawe a thu hwnt.

Mae angen rheolaeth weithredol ar Gomin Fairwood, yn bennaf drwy bori, er mwyn atal newidiadau mewn llystyfiant a fyddai'n arwain at leihau'r gwerth pori, colli bioamrywiaeth, mwy o risg o dân a cholli gwerth hamdden/tirwedd. Mae wedi bod yn anodd cyflawni rheolaeth o'r fath oherwydd amrywiaeth o faterion; ac nid yr heriau a geir oherwydd rheoliadau TB ac anifeiliaid marw ar y ffyrdd yw'r lleiaf ohonynt. Nid yw cynlluniau talu presennol wedi bod yn ddigon o gymhelliad i annog rheolaeth oherwydd eu fformat cyfyngol.

Fodd bynnag, gallai cynlluniau/taliadau sy'n seiliedig ar ganlyniadau gynnig dewis amgen deniadol, heb unrhyw ymrwymiad i unrhyw weithgarwch rheoli penodol ac felly mae’n caniatáu cryn dipyn o hyblygrwydd.  Drwy weithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Cominwyr Gŵyr, ein nod yw creu cynllun deniadol sy'n seiliedig ar ganlyniadau, fel y gall porwyr weld y gwerth mewn ffurfio cymdeithas a dechrau trafodaethau ar gytundeb rheoli gyda CNC/Llywodraeth Cymru.  Byddai'r cynllun rydym yn ei ddatblygu'n cael ei gostio'n llawn, a byddai'n addas at y diben o'i fabwysiadu fel y sail ar gyfer cytundeb rheoli.  

Nodau ac amcanion allweddol:

  • Cardiau sgôr prawf maes gyda phorwyr/CNC yn defnyddio/mireinio'r fethodoleg lawn
  • Cynhyrchu ymagwedd taliadau ymarferol wedi'u cyllidebu, sy'n gyson ag anghenion CNC
  • Ymgysylltu â chominwyr ynghylch yr ymagwedd a nodi’r cyllid ategol sy’n angenrheidiol.
  • Darparu cyngor annibynnol ar ffurfio cymdeithas gyda chominwyr, yn ôl yr angen
  • Cynnal o leiaf un cyfarfod gyda gwneuthurwyr polisi Fairwood 
  • Cynhyrchu 'cyfarwyddiad gweithredol' neu lawlyfr ar gyfer y cynllun 
  • Cynhyrchu adroddiad, o leiaf un fideo YouTube, cyhoeddi gwaith yn lleol ac ar gyfryngau cymdeithasol. 

Amcan 1: Gwella rheolaeth o'r comin pwysig hwn er budd y gymuned gyfan. 

Amcan 2: Bydd y prosiect yn cyfrannu'n uniongyrchol at ddatblygu ateb blaengar i'r argyfwng natur a hinsawdd drwy ddulliau mwy effeithiol o reoli tir yn gynaliadwy ar safle o bwysigrwydd rhyngwladol. 

Amcan 3: Bydd y prosiect hwn yn gosod y sylfeini ar gyfer cynnydd mewn cynhyrchu anifeiliaid wedi'u pesgi ar borfa ar y comin.

Amcan 4: Bydd y cig a gynhyrchir ar y comin o ansawdd uchel a gellir ei brosesu a'i werthu'n lleol, gan fyrhau'r gadwyn gyflenwi. 

Amcan 5: Bydd y prosiect yn cyfrannu at gadernid a gallu'r gymuned bori yn Fairwood.  Mae'r fethodoleg sy'n sail i'r prosiect wedi'i dylunio i rymuso porwyr i barchu rheolaeth o'r tir a da byw wrth wneud penderfyniadau allweddol, gan sicrhau canlyniadau cadarnhaol a mynediad at gyllid. 

Amcan 6: Bydd y prosiect hwn yn darparu system sy'n bwriadu lleihau nifer y tanau a geir ar y comin drwy bori. Gwneir hyn drwy leihau swm y tanwydd a ddefnyddir a'r lefelau uchel o wastraff llystyfiant.

PDF icon

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£9979.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Abertawe
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Victoria Thomson
Rhif Ffôn:
01792636992
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.swansea.gov.uk/rdp

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts