Gofalu ar adeg y Nadolig

Yn ystod pandemig COVID-19, roedd llawer o bobl hŷn ar ben eu hunain ac yn unig, yn ofnus ac wedi'u drysu.  Roedd pobl hŷn wedi'i chael hi'n anodd a bu'n rhaid i lawer ohonynt hunanynysu am gyfnodau hwy nag unrhyw un arall a dim ond drwy wylio'r teledu yr oedd modd cael gwybodaeth, ac roedd hynny'n ddigon i godi ofn!  Wrth i'r wythnosau droi'n misoedd ac wrth i'r dyddiau droi'n dywyllach ac yn oerach, sylwodd staff a gwirfoddolwyr ACNPT fod newid mewn agweddau, a bod preswylwyr yn dioddef o hwyliau isel am eu bod nhw’n gweld eisiau eu ffrindiau a'u teuluoedd, a'u bod yn teimlo'n rhwystredig ac yn unig.

Er mwyn ceisio cynnig cymorth a chefnogi'r rheini a oedd yn treulio'r Nadolig ar eu pennau eu hunain, roedd angen i ACNPT weithredu'n gyflym drwy weithred o garedigrwydd syml - bag cario bach a fyddai'n cynnwys ychydig o fwyd, anrheg fach, cardiau ac addurniadau a negeseuon gan blant ysgol leol i godi eu hwyliau. Roedd hyn hefyd yn rhoi cyfle i wirfoddolwyr ACNPT gynnal gwiriadau lles ar garreg drws cyn y Nadolig wrth ddosbarthu'r bagiau cario.  Roedd cyfle i wirfoddolwyr godi unrhyw bryderon fel y gallai preswylwyr oedrannus gael eu cyfeirio at y gwasanaeth(au) priodol, pe bai angen gwneud hynny.  Roedd manylion cyswllt ACNPT wedi'u hargraffu ar y bagiau cario mewn print bras, ac roedd hefyd gylchlythyr yn y bag a oedd yn cynnwys manylion yr holl wasanaethau a oedd ar gael drwy ACNPT.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£3,300
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Castell-nedd Port Talbot
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2
Caring at Christmas

Cyswllt:

Enw:
Dean Richards
Rhif Ffôn:
01639 617333
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.acnpt.org.uk
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts