Gower Flax - Technegau/Datblygiad Ffibrau a Lliwiau Naturiol

Canolfan ymchwil, twf ac addysg ar Fferm Hardingsdown, Llangynydd yw Gower Flax CIC. Mae'n archwilio ffibrau naturiol a systemau tecstilau atgynhyrchiol i ddatblygu ffibrau sy'n fuddiol i'r hinsawdd. 

Bydd Gower Flax yn darparu datrysiad sy'n seiliedig ar natur sy'n cael effaith ystyrlon ar les. Gweithio gyda natur i wella iechyd, cynnal a gwella bioamrywiaeth, lleihau ein hôl troed carbon a gwella'n gwybodaeth am ein hamgylchedd naturiol a'n dealltwriaeth ohono.  

Caiff ffibrau a llifynnau naturiol eu tyfu, eu cynaeafu a'u prosesu ar y safle. Caiff pob cam o'r broses hon ei ddogfennu a'i rannu â'r gymuned leol yn ddigidol a thrwy ddiwrnodau gwirfoddoli ymarferol, gweithdai cymunedol ac mewn ysgolion ac enciliadau preswyl creadigol.  

Lliain yw un o'r ffibrau mwyaf cynaliadwy y gellir ei dyfu, ac nid oes angen llawer o ymyrraeth. Mae Gower Flax yn dilyn arferion ffermio a phrosesu organig ac atgynhyrchiol.  

Bydd y prosiect yn:  

  • rhannu/addysgu sgiliau sy'n gysylltiedig â thyfu a thynnu ffibrau - prosesu, nyddu, gwau a gwehyddu'r ffibrau i greu lliain y gellir ei ddefnyddio.  

  • annog lle ar gyfer rhannu gwybodaeth am decstilau naturiol, lle ar gyfer creadigrwydd, adeiladu cadernid cymunedol ac ymdeimlad o les.  

  • addysgu pobl am sut a ble y caiff tecstilau eu tyfu - drwy gynyddu ymwybyddiaeth o'r prosesau gwenwynig y mae ffasiwn cyflym yn eu hybu, efallai y bydd pobl yn dechrau meddwl ddwywaith am yr hyn sydd ei angen arnynt, gan annog gostyngiad yn y diwylliant 'taflu i ffwrdd'.  

  • creu mwy o swyddi lleol sy'n ymwneud â thyfu cynaliadwy. 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£50000.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Abertawe
Cwblhau:
Thema:
1, 2
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Victoria Thomson
Rhif Ffôn:
01792 636992
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts