Gweithgareddau ymgysylltu

Dros gyfnod o ddwy flynedd, byddwn yn trefnu 10 encil i 80 o bobl ifanc (14-18 oed). Bydd yn gyfle iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored ac ennill cymwysterau, magu hyder a meithrin sgiliau cyfathrebu, a bydd yn creu brwdfrydedd ac yn eu dysgu i weithio fel rhan o dîm. Yn ogystal â hyn, byddwn yn cynnig profiadau newydd iddynt a chyfle i gyfarfod â phobl ifanc eraill o bob rhan o Gastell-nedd Port Talbot.  Bydd pob encil yn para dau ddiwrnod a bydd lle i 8 o bobl ifanc. Byddwn yn defnyddio Gweithgareddau’r Mynydd Du ger Aberhonddu ac yn cynnig gwasanaeth bws mini i gludo pobl ifanc o’r wardiau gwledig i sicrhau bod y gweithgareddau’n agored i bawb.

Yn ogystal â hyn, byddwn yn trefnu gwaith ieuenctid ar wahân yn y wardiau gwledig i helpu pobl ifanc i ehangu eu gorwelion, i’w herio’n feddyliol ac i feithrin eu sgiliau. Gweithgareddau sy’n apelio at bobl ifanc fydd y rhain a byddant yn amrywio o ran natur, e.e. llifo a chlymu crysau-t, ffotograffiaeth, sgiliau chwilio am waith, menter, chwaraeon, celf a chrefft, creu gwefannau, addurno cacennau bach, ffasiwn, nosweithiau DVD, dinasyddiaeth a dawnsio stryd,  ymhlith eraill. Bydd y sesiynau’n gyfle i bobl ifanc ddysgu’n anffurfiol drwy roi cyfleoedd iddynt ennill Tystysgrif  Ragarweiniol City and Guilds Lefel 1 mewn Sgiliau Cyflogadwyedd.

Bydd cyfle cyfartal yn egwyddor sylfaenol a darperir amgylchedd diogel lle y gall pobl ifanc ymwneud â gweithwyr ieuenctid a fydd yn gallu eu helpu a’u cefnogi wrth iddynt dyfu’n oedolion.  Bydd y ddarpariaeth yn cyd-fynd â Strategaeth  Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol Llywodraeth Cymru  2014-2018. Yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru, y cymhwyster sylfaenol ar gyfer Arweinydd Clwb Ieuenctid yw Tystysgrif Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid. Drwy gydnabod llwyddiant pobl ifanc, gellir rhoi hwb i’w hunanhyder, tanio’u brwdfrydedd a’u hymgysylltiad. Byddwn yn cynorthwyo 60 o bobl ifanc i ennill Tystysgrif Ragarweiniol City and Guilds Lefel 1 mewn Sgiliau Cyflogadwyedd.

Dyma fydd prif ganlyniadau’r prosiect:

  • 80 o bobl ifanc (14-18 oed) wedi cymryd rhan.
  • 10 encil gweithgareddau awyr agored wedi’u trefnu.
  • 60 Tystysgrif Ragarweiniol City and Guilds Lefel 1 mewn Sgiliau Cyflogadwyedd.
  • 80 o ganlyniadau cadarnhaol a sgiliau meddal wedi gwella - caiff hyn ei fesur drwy ofyn i’r bobl ifanc lenwi holiaduron ar ddechrau ac ar ddiwedd y prosiect.
  • 48 o bobl ifanc yn symud ymlaen i gymryd rhan mewn cyrsiau dysgu neu weithgareddau ymgysylltu eraill.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£49,099
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Castell-nedd Port Talbot
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Ian Ross
Rhif Ffôn:
07730 550607
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.wrecltd.co.uk/regenerate-npt-rural-youth-work/

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts