Gweledigaeth a Rennir ar gyfer Tir Comin

Sicrhau bod cominwyr a rhanddeiliaid eraill sy'n ymwneud â thir comin yn cael y manteision gorau posib o ran gallu i gyfrannu at bolisïau - deall cysyniadau, bod yn gyfarwydd â therminoleg, profiad ymarferol o geisio meintioli cyflenwi nwyddau cyhoeddus, cydbwyso anghenion gwahanol nwyddau cyhoeddus mewn lleoedd go iawn a throi'r cymhlethdod amrywiaeth lleol yn fesur ymarferol. 

Sicrhau nad yw tir comin yn ôl-ystyriaeth ond yn flaenoriaeth o ran y meddylfryd hwn - ystyried yn llawn y cymhlethdodau ychwanegol sy'n codi oherwydd y fframwaith cyfreithiol sy'n berthnasol i dir comin a'r pwysau economaidd-gymdeithasol sy'n gwneud dyrannu hawliau a chyfrifoldebau a gwobrwyo ymdrech yn deg yn fwy anos ar dir gyda chyfres luosog o hawliau ac amrywiaeth yn y defnydd a wneir o'r hawliau hynny.

I 'lenwi'r bwlch' o ran meddwl am gefnogi cyflenwi nwyddau cyhoeddus ar dir comin trwy ymagweddau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan wneud y defnydd gorau o'r 'amser segur' o ran gwaith cyhoeddus gan y Llywodraeth - bydd y prosiect yn 'prynu amser' i'r Llywodraeth a chyrff ffermio, gan ganiatáu ystyriaeth ofalus a chynnal profion maes ar ymagweddau gwahanol wrth i ansicrwydd y sefyllfa bresennol gyfyngu ar gwmpas gweithredu'r Llywodraeth.

 

Saesneg yn unig

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£90000.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Abertawe
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.3

Cyswllt:

Enw:
Victoria Thomson
Rhif Ffôn:
07976357924
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts