Mae'r prosiect yn cynnwys pedwar ffermwr o Geredigion a Sir Gaerfyrddin sy’n cadw buchesi rhwng 30 a 45 o wartheg sugno. Bydd y prosiect yn rhedeg rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Mehefin 2022. Eu nod yw gwella'r ffordd y maen nhw’n rheoli maeth eu buchesi sugno ar adeg lloia i wella iechyd a chynhyrchiant anifeiliaid, gan leihau’r defnydd o wrthfiotigau ar yr un pryd. Byddant yn gweithio tuag at hyn drwy ddatblygu a gweithredu cynlluniau rheoli a fydd yn cynnwys:
- Llunio dognau yn seiliedig ar broffiliau metabolig a dadansoddi’r bwyd/porthiant
- Strategaethau i gynyddu ansawdd ac amsugniad colostrwm
- Strategaethau ar gyfer rheoli clefydau'n ataliol, gan gynnwys protocolau glanhau a hylendid, yn seiliedig ar ganlyniadau dadansoddi deunydd gorwedd, samplu ysgarthion a chanlyniadau post-mortem
- Fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau ar driniaethau gwrthfiotig
Caiff effaith y dull hwn o ymdrin ag iechyd a chynhyrchiant anifeiliaid ei hasesu dros y ddwy flynedd drwy fesur dangosyddion perfformiad allweddol sy'n ymwneud â thwf a datblygiad, marwolaethau lloi ac achosion o glefydau allweddol. Bydd unrhyw ostyngiadau yn y defnydd o wrthfiotigau yn cael eu mesur yn erbyn targedau RUMA 2020 a'u monitro gan ddefnyddio adnodd AHDB Electronic Medicine Hub (eMH) ar gyfer bîff a defaid.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£39,508
- Ffynhonnell cyllid:
-
PAE
- Ardal:
-
Ceredigion
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- Tony Little
- Cyfeiriad e-bost:
- tony@sustainablefarming.co.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts