Gwesty Llechwen Hall Cyf

Mae'r buddsoddiad yn cynnwys estyniad i'r prif adeilad (h.y. mae'r estyniad yn gysylltiedig â'r adeilad presennol) gan ychwanegu 26 x ystafelloedd gwely 4 Seren; campfa a sba fach; gwaith tirlunio; yn ogystal ag uwchraddio'r 12 ystafell sy'n bodoli eisoes yn y prif Dŷ a'r 8 ystafell yn y Cerbyty i gyrraedd yr un ansawdd 4 Seren.

Bydd yr estyniad yn gydnaws â'r adeilad presennol â tho llechi a bydd yn cynnwys cwrt bach.

Caiff yr ardal gysylltiol rhwng yr adeilad presennol a'r estyniad ei defnyddio fel derbynfa benodedig a fydd (a) yn disodli'r dderbynfa bresennol y mae angen ei hadnewyddu, a (b) trwy gael gwared ar y dderbynfa bresennol, yn gwneud ardaloedd y lolfa bresennol yn fwy preifat ac yn gwella eu hansawdd.

Bydd y buddsoddiad hefyd yn cynnwys gwaith i gasglu dŵr glaw ac maent wrthi'n ystyried opsiynau ar gyfer paneli solar. 
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£409,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)
Ardal:
Caerffili
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Ramish Gor

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts