Gwireddu cyfalaf naturiol mawndiroedd Cymru

Nod y prosiect hwn yw trawsnewid a gwella mawndiroedd ar hyd a lled Cymru ar y cyd â rhanddeiliad a chymunedau. Bydd y prosiect yn ceisio creu sefydlogrwydd ecolegol a dulliau cynaliadwy o reoli mawndiroedd.  Y gobaith yw y bydd y prosiect yn cael ei roi ar waith ar raddfa’r dirwedd gyfan (e.e. dalgylch) neu sector cyfan (ee safleoedd gwarchodedig), ac y bydd yn gyfle i bartneriaid ddatblygu arbenigedd a meithrin gallu ym maes adfer mawndiroedd.   

Bydd y prosiect hwn yn helpu i gyrraedd y targed a bennwyd ar gyfer 2020 i sicrhau bod mawndiroedd yn cael eu rheoli’n gynaliadwy. Drwy weithio ar y cyd, bydd modd sicrhau buddion amgylcheddol amrywiol drwy barhau i gydweithredu â’r systemau presennol a drwy waith cyfalaf i fynd i’r afael â’r agweddau hynny ar adfer mawndiroedd sy’n ‘anodd ei wneud.’ Bydd hyn yn arwain at ddulliau rheoli cynaliadwy mwy hirdymor a gaiff eu hariannu drwy daliadau am wasanaethau ecosystemau (PES). Bydd gweithgareddau eraill yn arwain at ddulliau mwy gydgysylltiedig â chydlynol o weithio gan gynnwys ym maes cyllid allanol, hyfforddiant, addysg, caffael PES, monitro a gwaith ymchwil yn  ymwneud â mawndiroedd Cymru.   
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£924,956
Ffynhonnell cyllid:
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
Ardal:
Gwynedd
Cwblhau:
Mesur:
19.2
Realising the Natural Capital of Welsh Peatlands

Cyswllt:

Enw:
Dafydd Owen
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts