Gŵyl Afon Dyffryn Gwy

Gŵyl Gelf ac Amgylchedd uchelgeisiol yw Gŵyl Afon Dyffryn Gwy 2018 o dan arweiniad Partneriaeth AHNE Dyffryn Gwy. Ysbrydoliaeth yr ŵyl ddwyflynyddol hon yw'r dirwedd o bwys rhyngwladol a chaiff ei harwain gan artistiaid, arbenigwyr yn yr amgylchedd a phobl sy'n byw yn AHNE Dyffryn Gwy.

Â'r ŵyl wedi ennill ei phlwyf yn llwyddiannus dros y pum mlynedd diwethaf, bydd y prosiect hwn yn rhoi'r modd i'r ŵyl gynnal ymgyrch farchnata fwy creadigol sy'n adlewyrchu natur yr ŵyl (Creadigol, Byw a Go Iawn) ac a fydd yn denu o leiaf 10% yn fwy o ymwelwyr, gan gysylltu â chynulleidfa ehangach dros y ffin yn Lloegr. Cynhelir ymgyrch farchnata 'guerrilla' artistig a chreu gwaddol ar ffurf fidoes gan ddrôn a ffotograffau brand Cymru y gellir eu defnyddio ymhell wedi i ŵyl 2018 ddod i ben.

Bydd y prosiect hefyd yn ymchwilio ac edrych yn agos ar sut i ddatblygu'r cynnyrch - sut i ehangu a chynnal yr ŵyl yn y tymor hir gan ei gwneud yn gynaliadwy a pharatoi cynllun busnes 6 mlynedd newydd, i'w gwneud yn un o brif ddigwyddiadau Cymru. 
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£24,400
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF)
Ardal:
Dyffryn Wysg
Cwblhau:
Wye Valley River Festival 2018 and 2020

Cyswllt:

Enw:
Ruth Waycott
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts