Hen Linell Bell

Pwrpas y prosiect ‘Hen Linell Bell' gan Gwmni Theatr Arad Goch oedd dathlu diwylliant Ceredigion trwy gyfres o berfformiadau a digwyddiadau celfyddydol cyffrous o ansawdd uchel mewn lleoliadau ar draws y dref; llawer ohonynt yn yr awyr agored. Dros gyfnod o ddeng mis, bu Cwmni Theatr Arad Goch yn gweithio'n agos gyda'r gymuned leol - ysgolion, busnesau, clybiau, a chymdeithasau - i greu a threfnu gŵyl arloesol a chynhwysol.

Un o brif amcanion yr ŵyl, a ysbrydolwyd gan straeon yr ardal, gan gynnwys stori Cantre’ Gwaelod, oedd dod â chymuned Aberystwyth a'r ardal gyfagos at ei gilydd gan gynnig amrywiaeth o gyfleoedd i gymryd rhan ynddynt.

Cynhaliwyd noson gyhoeddus ym mis Tachwedd 2016 i wahodd aelodau'r gymuned leol i gynnig awgrymiadau ar sut i arddangos a phortreadu elfennau o hanes Cantre'r Gwaelod.

Mae’r prosiect wedi rhoi hwb i broffil tref Aberystwyth fel lle creadigol a diddorol i fyw ac ymweld â, wrth hefyd roi hwb i ddiwydiant twristiaeth y dref a chodi proffil yr iaith Gymraeg. Drwy gydol y prosiect cynhaliwyd dros 150 o ddigwyddiadau unigol a welodd dros 6900 o bobol yn cyfranogi neu yn gwylio.

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£54,151
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Ceredigion
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Cynnal y Cardi
Rhif Ffôn:
01545 572063
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.cynnalycardi.org.uk

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts