Holiadur Blaenau Ffestiniog

Ar ol dod o hyd i wybodaeth gyffredinol o ffynonellau eilaidd sydd ar gael, y brif ddull ymchwil fydd holiaduron, grwpiau ffocws, sesiynau un i un, ffilmiau hyrwyddo yn cynnwys 40 o gwestiynau bydd yn cael ei ddosbarthu i oddeutu 300 o drigolion sydd yn cynrychioli gwahanol oedrannau a rhywiau o fewn y gymuned. Bydd yr holiadur yn cael ei drefnu gan ymchwilwyr Manceinion (Dr Karel Williams a Julie Froud) bydd yn cydweithio efo Dr Lowri Wynn (Prifysgol Aberystwyth) fel arbenigwr lleol, a Cwmni Bro Ffestiniog fydd yn trefnu dosbarthu a hel yr holiaduron.

Bydd yr ymchwilwyr wedyn yn dod a'r casgliadau ynghyd er mwyn llunio cynllun gweithredu economiadd a chymunedol.

Bydd yr ymchwil yn rhoi Sylfaen gref tuag at gynllunio a gweithredu cynlluniau o fudd gwirioneddol i’r gymuned a’r sail cryfderau’r gymuned honno.

Bydd y prosiect yn darganfod sut mae ‘lle’ cyffredin yn gweithio a beth sydd yn wirioneddol bwysig i drigolion Bro Ffestiniog. Mae llawer o’r materion yma wedi amlygu ei hunain ers i’r Dref Werdd gychwyn ar gynllun newydd yn haf 2019 a bydd yr ymchwil yma yn ymhelaethu ar y rhain, yn ogystal a helpu’r gymuned, asianataethau a’r awdurdodau blaenoriaethu’r materion pwysicaf iddynt ynghyd a dod o hyd i ddatrysiadau posib wrth gweithredu cynlluniau I’r dyfodol.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£5,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Gwynedd
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Rhian Hughes
Rhif Ffôn:
01766514057
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts