Horeb - Prosiect HELIX - Canolfan Bwyd Cymru

Mae'r diwydiant bwyd yng Nghymru yn dioddef o ddiffyg arbenigedd technegol mewn diwydiant i helpu i ddatblygu gweithgarwch ac arloesedd cynhyrchu bwyd. Mae hyn yn effeithio ar bob rhan o Gymru ond yn arbennig ardaloedd gwledig a'r Cymoedd lle mae cynhyrchiant bwyd wedi bod yn sbardun economaidd pwysig yn y gorffennol.

Bydd prosiect HELIX yn ceisio datblygu a darparu gweithgarwch trosglwyddo gwybodaeth sy'n canolbwyntio ar arloesi, strategaeth fwyd ac effeithlonrwydd a fydd yn cynyddu cynhyrchiant ac yn lleihau gwastraff yn y gadwyn fwyd.

Bydd y prosiect hwn yn ffurfio rhan o ddarpariaeth Arloesi Bwyd Cymru felly mae'n gallu cwmpasu Cymru gyfan.

Bydd prosiect HELIX yn casglu gwybodaeth am gynhyrchu bwyd, tueddiadau a gwastraff o bob rhan o'r byd ac yn trosglwyddo'r wybodaeth i gynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr bwyd, boed yn gwmnïau newydd neu gwmnïau yng Nghymru sydd wedi ennill eu plwyf, gan roi'r cyfle gorau ar gyfer twf ac effaith ar economi Cymru a'r UE.

Caiff cynnwys trosglwyddo gwybodaeth ei ddarparu fel ymyriadau tymor byr, tymor canolig a thymor hir, yn dibynnu ar y diffyg mewn gwybodaeth yn y diwydiant ond bydd yn ymdrin â phynciau mor amrywiol ag ailfformiwleiddio cynnyrch a lleihau gwastraff prosesu.

Bydd prosiect HELIX yn cael effaith sylweddol ar greu a chadw swyddi, lleihau gwastraff, a datblygu busnesau newydd.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£3,789,218
Ffynhonnell cyllid:
Cynllun arloesedd a throsglwyddo gwybodaeth
Ardal:
Ceredigion
Cwblhau:
Bug Farm Food

Cyswllt:

Enw:
Duncan Hall
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts