Hyrwyddo iechyd meddwl Conwy wledig

Cynnal digwyddiad o sesiwn hyfforddi i weithwyr a swyddogion sydd yn ymwneud a’r diwydiant amaeth yng Nghonwy er mwyn codi ymwybyddiaeth, ac adnabod y symtomau o anhwylder a phroblemau iechyd meddwl. Nid prosiect i ffermwyr yn uniongyrchol fydd hwn.

Mae amaeth yn aml yn cael ei ddisgrifio fel asgwrn cefn y gymuned wledig, ac er i’r diwydiant gael ei ramantu, ac ymddangos fel ffordd hamddenol o fyw, niferus iawn yw’r mathau o salwch a all effeithio ar ffermwyr. Boed yn salwch corfforol, neu yn feddyliol, mae ffermwyr yn gyndyn iawn i siarad am broblemau iechyd.
 
Gydag ansicrwydd o fewn y diwydiant (yn bennaf oherwydd Brexit), mae llawer iawn o ffermwyr yn meddwl am arallgyfeirio, newid eu model busnes, neu yn chwlio am atebion i gwestiynau am bethau sydd yn eu heffeithio. Ond, gan eu bod yn byw a gweithio mewn amgylchedd unig yn aml, gall y pryderon hyn gael eu lluosi trwy or-boeni a thrwy beidio â rhannu’r pryderon (peidio a siarad gyda rhywun). Bydd y prosiect yma yn hyfforddi pobl i adnabod y symtomau o anhwylderau a ddisgrifir uchod, gyda'r gobaith y gall unigolion ddrbyn cymorth. 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£671.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Conwy
Cwblhau:
Thema:
2
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Rhys Evans
Rhif Ffôn:
01492 576671
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts