Income generation from printed resources

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae'r LAG wedi cyflawni nifer o brosiectau sydd wedi arwain at gynhyrchu llenyddiaeth, megis Llwybrau’r Fro a Phecynnau Tracio i enwi ond ychydig. Er bod y rhain i’w gweld ar-lein fel PDF a’u bod ar gael fel Apiau mae galw sylweddol yn parhau am lenyddiaeth brintiedig. Y broblem yw na fydd Cyngor Bro Morgannwg yn gallu talu am ail-argraffu’r llenyddiaeth hon yn y dyfodol. Hefyd, nid fu’n bosibl dod o hyd i drydydd parti priodol i ymrwymo i hyn ychwaith. Pan holodd y tîm Cymunedau Gwledig Creadigol pam na ellir codi tâl a ffioedd am lenyddiaeth brintiedig cafodd nifer o rwystrau a chwestiynau eu codi.

Mae'r rhain yn cynnwys o Na fyddai dosbarthwyr taflenni yn gallu casglu arian parod neu daliadau o Byddai maint y gwaith gweinyddol angenrheidiol i godi tâl am lenyddiaeth argraffedig yn fwy na'r manteision o godi tâl o Mae’n annhebygol y bydd y defnyddiwr yn talu neu y byddai’r un nifer o bobl yn cymryd rhan pe bai tâl am y llenyddiaeth sy’n cael ei ddarparu am ddim ar hyn o bryd, felly byddai hyn yn lleihau nifer yr ymwelwyr a’u cyfraniad at yr economi.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£12,604
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Bro Morgannwg
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Nicola Sumner-Smith
Rhif Ffôn:
01446 704707
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts