Y syniad yw creu rhan o Lanrwst ar faes carafannau’r Eisteddfod. Gyda dros 750 o garafannau yn rhan o faes swyddogol yr Eisteddfod, mae angen darpariaeth siop a bwyd/ diodydd poeth. Mae’r safon y ddarpariaeth yma rhwystredig i’r carafanwyr yn aml, ac wedi dirywio flwyddyn ar ôl blwyddyn ers Eisteddfod Meifod yn 2015.
Mae grŵp o gynhyrchwyr a busnesau Llanrwst sydd yn ymwneud a busnesau ffermio wedi dod at ei gilydd drwy gefnogaeth Agrisgôp i edrych ar y cyfleoedd sydd yn sgil yr Eisteddfod. Maent yn chwilio am gefnogaeth i dreialu model newydd o ddarparu gwasanaethau ac yn bwriadu cydweithio a manwerthwr a phartner arlwyo a fydd yn cynnig cynnyrch yr ardal o fewn dalgylch penodol i’r Eisteddfod i weld os oes modd gallu gwasanaethu anghenion carafanwyr mewn gwŷl symudol gyda chynnyrch o fewn radiws penodol i’r ardal y maent yn ymweld â hi.
Mae briff eisoes wedi ei baratoi yn nodi categorïau o’r cynnyrch perthnasol sydd ei angen (e.e. cynnyrch becws, llaethdy, cig ayyb) a pa fusnesau all ddarparu hyn yn Llanrwst gan edrych ar ardal ehangach Conwy os nad ar gael yn Llanrwst. Y bwriad yw cynnig cynnyrch sydd o darddiad mor agos â phosib i faes yr Eisteddfod.
Mae trafodaethau eisoes wedi digwydd i egwyddor y cynllun yma gyda threfnwyr yr Eisteddfod ac mae angen sicrhau nawdd cyn i gytundeb ffurfiol gael ei chadarnhau. Bydd y grŵp yn derbyn cyfrifoldeb am y gofod yma yn y maes carafannau ac yn penodi manwerthwr ac arlwywr o’r ardal ar sail briff a fydd yn blaenoriaethu gwerthiant cynnyrch o ddalgylch Llanrwst ac yn ehangach os nad ar gael. Ni fydd y grŵp yn gweithredu'r siop na chaffi, ond yn hytrach yn cynnal ymgyrch ar y safle i hyrwyddo cynnyrch yr ardal a busnesau bwyd a diod tref Llanrwst a’r cyrion.
Mae sawl tref marchnad wedi dioddef cwymp economaidd yn y blynyddoedd diwethaf, ac nid yw Llanrwst wedi eithrio. Elfen arall o’r syniad fydd creu graffeg ar gyfer yr ardal yma o’r maes carafannau a fydd yn dangos yn weledol beth sydd yn y dref a’r bobl sydd yn gweithio yn y sector gydag ymgyrch farchnata yn creu delfryd o Lanrwst fel cadarnle i fwyd a diod yn Nyffryn Conwy.
Gweithgareddau eraill sydd yn cael eu hystyried yw cynnwys ‘signature dish’ bwytai lleol ar fwydlen y caffi, nosweithiau arbennig a chyfle i ymwelwyr gwrdd â’r rhai sydd yn cynhyrchu bwyd a diod yn yr ardal. Y gobaith yw bod hyn yn gam cyntaf i ddatblygu cyfleoedd pellach yn y dyfodol yn unol â strategaeth economaidd CBSC.
Yn ei hanfod, mae tair elfen i’r prosiect yma:
- Cyd-weithio gyda phartneriaethau arlwyo ac arwain ar sicrhau bod bwyty ar y maes carafannau yn cynnig darpariaeth bwyd poeth a hyrwyddo cynnyrch lleol.
- Cyd-weithio gyda manwerthwr i sicrhau bod siop sydd yn cynnig a hyrwyddo bwydydd lleol ar y maes carafannau.
- Bod gofod yn cael ei ddatblygu i gynnig gweithgareddau i hyrwyddo siopau a bwytai lleol. Bydd amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu cynnig yn y gofod megis “marchnad ffermwyr, arddangosfeydd coginio ayyb.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£8377.00
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Conwy
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 2
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Iona Edwards
- Cyfeiriad e-bost:
- iona@ionaedwards.com
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts