Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddalgylch gyfan afon Dyfrdwy yng Ngogledd Cymru gan gynnwys nifer o afonydd, llynnoedd a chronfeydd dŵr. Mae’r ardal yn cynnwys pum awdurdod lleol, y Parc Cenedlaethol a nifer o safleoedd dynodedig.
Mae cymunedau trefol a gwledig yn y dalgylch dan sylw a gall ansawdd yr adnoddau naturiol effeithio ar nifer fawr o bobl. Mae nifer o broblemau’n wynebu’r dalgylch gan amrywio o lifogydd, erydiad pridd ac ansawdd dŵr i ddiweithdra ac amddifadedd cymdeithasol hirdymor. Gan gydnabod hyn, nod y prosiect yw cymryd camau i wella adnoddau naturiol drwy’r dalgylch ac, wrth wneud hynny, creu cyfleoedd i bobl, gan gynnwys pobl ddi-waith ac anabl, ddysgu am wella dulliau o reoli tir a chymryd rhan yn y gwaith hwnnw. Bydd y prosiect yn datblygu ‘Cynllun Gwarchod Afon’ i helpu i gyflawni hyn.
Mae’r prosiect eisoes wedi sefydlu grŵp o gyrff cydweithredol gan gynnwys AHNE Dyffryn Dyfrdwy, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaethau Natur, Bryniau Clwyd a’r Parc Cenedlaethol. Bydd y prif weithgareddau rheoli tir yn seiliedig ar helpu i atal rhywogaethau goresgynnol anfrodorol drwy’r dalgylch cyfan. Mae’r rhain yn amharu cryn dipyn ar adnoddau naturiol a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Drwy gynnal arolwg llinell sylfaen cynhwysfawr, bydd y prosiect yn gallu canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r broblem hon a rhoi blaenoriaeth iddi.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£700,000
- Ffynhonnell cyllid:
-
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
- Ardal:
-
Gwynedd
- Cwblhau:
-
- Our River Wellbeing: Nature Based Solutions in the Dee Catchment
Cyswllt:
- Enw:
- Lyn Byrne
- Cyfeiriad e-bost:
- lynbyrne@wildlifetrustswales.org
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts